Alert Section

Cadeirydd y Cyngor


Y Cadeirydd yw pennaeth dinesig seremonïol y Cyngor.  Rhaid i’r Cadeirydd fod yn Gynghorydd Sir  mewn gwasanaeth, ond dylai aros yn ddi-duedd yn wleidyddol wrth gyflawni ei rôl.  Ni ddylai’r Cadeirydd fod yn Aelod o’r Bwrdd Gweithredol.

Etholir Cadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhelir ym mis Mai bob blwyddyn.

Gall y rôl fod yn un drom iawn ac mae’r Cadeirydd fel arfer yn mynychu dros 400-500 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn.

Cadeirydd 2023/24 Cynghorydd Gladys Healey.

Ciplun o'r Cynghorydd Gladys Healey

Consort y Cynghorydd Healy fydd ei Gŵr Cllr David Healey.

Mae gan y Cadeirydd rôl allweddol yn y Cyngor gan gynnwys:-

  • bod yn arweinydd dinesig di-duedd yn wleidyddol i Sir y Fflint a chynnal gwerthoedd democrataidd y Cyngor

  • hyrwyddo amcanion a gwasanaethau’r Cyngor Sir a chodi proffil Sir y Fflint ei hun

  • gweithredu fel llysgennad i’r Cyngor Sir a Sir y Fflint

  • meithrin hunaniaeth a balchder cymunedol

  • cydnabod unigolion a sefydliadau sydd wedi dod â llwyddiant i’r Sir

Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau eraill megis:-

  • llywyddu yng nghyfarfodydd y Cyngor i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn effeithlon ac o ran hawliau Cynghorwyr a buddiannau’r gymuned

  • mynychu digwyddiadau dinesig a seremonïol

  • gwahodd unigolion a chynrychiolwyr sefydliadau i ddigwyddiadau yn Neuadd y Sir a lleoliadau eraill

Ar ddechrau’r flwyddyn gall y Cadeirydd enwebu elusen neu elusennau i elwa o arian a godir yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Yr elusennau a ddewiswyd gan y Cadeirydd eleni yw Ymddiriedolaeth Ymchwil Lymffoma a Mind Gogledd Ddwyrain Cymru

Is-Gadeirydd 2022/23 yw’r Cynghorydd Dennis Hutchinson.

Ciplun o'r Cynghorydd Dennis Hutchinson

Consort y Cynghorydd Hutchinson fydd ei Gŵraig Cllr Dave Healey.

Mae’r Cadeirydd yn croesawu cynghorau ysgol, grwpiau elusennol ac ati i ymweld ag ef/hi yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug.  Gwahoddir gwahoddedigion i lolfa’r Cadeirydd a gallant fynd ar daith o amgylch y Siambrau.  Byddai’r Cadeirydd hefyd yn falch o ymweld â thrigolion Sir y Fflint sy’n dathlu eu penblwyddi’n 100 oed, penblwyddi priodas mawr neu fynychu agoriadau digwyddiadau, busnesau a digwyddiadau elusennol.

Os hoffech wahodd y Cadeirydd i fynychu digwyddiadau yr ydych wedi’u trefnu, cysylltwch â:

Mrs. Karen Jones 
Swyddog Gwasanaethau Dinesig ac Aelodau
Gwasanaethau Dinesig ac Aelodau
Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NB.

Rhif ffôn: 01352 702152
E-bost: chairman.assistant@flintshire.gov.uk

Mae'r 2023/2024 Cadeirydd ymadawol, Y Cyng. Cododd Mared Eastwood £9,000 a roddwyd at ei Elusennau enwebedig:

  • Flintshire Foodbank
  • Nanny Biscuit
  • The Fostering Network