Alert Section

Tîm Diwygio Lles


A oes arnoch chi angen Cyngor a Chymorth?

Dydyn ni ddim ar hyn o bryd yn trefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo y byddech chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn elwa ar ein cymorth, cysylltwch â’r tîm ar 01352 704848 neu anfonwch neges i: wrrt@flintshire.gov.uk

Mewn ymateb i’r heriau diweddaraf sy’n wynebu llawer o’n trigolion yn Sir y Fflint, mae’r Tîm Diwygio Lles wedi cyflwyno gwasanaeth ymatebol i’ch helpu chi wella’ch cadernid ariannol.   

Gofynnwch y tri chwestiwn isod i chi’ch hun ac os mai ‘ydw’ ydi’r ateb i o leiaf un ohonyn nhw, yna, allwn ni eich helpu:

  • Ydych chi’n cael trafferth talu biliau?
  • Ydych chi’n gweithio ar gontract dim oriau?
  • Ydych chi mewn perygl o gael eich diswyddo?
  • Ydych chi wedi gweld gostyngiad yn eich incwm?

Gall y tîm ymroddedig eich helpu chi i:

  • Alinio'ch cyllid
  • Derbyn cymorth tymor byr
  • Edrych ar y budd-daliadau sydd ar gael i chi
  • Derbyn cefnogaeth ychwanegol  

Os hoffech chi ein cymorth ni, cysylltwch â’r tîm ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost i:  wrrt@flintshire.gov.uk

Gall Tîm Diwygio Lles Cyngor Sir y Fflint helpu cwsmeriaid a effeithir gan y newidiadau Diwygio'r Gyfundrefn Les canlynol:  

  • Credyd Cynhwysol
  • Tan-feddiannu (treth ystafell wely)
  • Cyfyngiadau Lwfans Tai Lleol
  • Uchafswm Budd-daliadau

Ein nod yw eich cefnogi, eich annog a'ch helpu i fod yn annibynnol yn ariannol. Os ydych chi’n cael trafferth rheoli eich taliadau rhent neu’n cael trafferth neilltuo arian ar gyfer biliau ac yn awyddus i ddarganfod mwy am eich opsiynau, gallwn eich helpu yn y ffyrdd canlynol:

  • Gallwn gynnig cyngor a chymorth i chi yn ymwneud â chyllidebu. Os ydych chi'n awyddus i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb, cwblhau Ffurflen Cefnogaeth Cyllidebu neu cysylltwch â'r Tîm Diwygio Lles ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at wrrt@flintshire.gov.uk
  • Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan sefydliadau partner, os hoffech drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb ar ran rhywun arall, cwblhewch Ffurflen Cefnogaeth Cyllidebu os gwelwch yn dda. 
  • Gallwn gwblhau ceisiadau argyfwng (yn amodol ar amgylchiadau’r unigolyn).  Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cronfa Cymorth Dewisol
  • Gallwn eich cyfeirio at gyngor neu gymorth arbenigol a all gynnwys rhwystrau i gyflogaeth, gofal plant, cyngor mewn perthynas â dyledion ac ati. 

Cymorth lles

  • A ydych chi’n cael trafferth â thalu eich rhent? 
  • A ydych chi’n ei chael hi’n anodd rheoli eich arian?
  • A yw’r newidiadau Diwygio'r Gyfundrefn Les yn cael effaith arnoch chi? 
  • A oes arnoch angen gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael?

Mae’n bosibl y bydd y Tîm Diwygio Lles yn gallu eich helpu, cysylltwch â ni ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at wrrt@flintshire.gov.uk 

Nod Cymorth Lles yw helpu cwsmeriaid y mae arnynt angen cyngor ynghylch rheoli arian a thalu biliau yn brydlon. 

Darperir cymorth drwy drefnu apwyntiadau mewn swyddfeydd lleol o fewn Sir y Fflint. 

Taliadau Tai Dewisol

Taliadau y gellir eu gwneud gan y Cyngor i bobl sy'n derbyn Budd-Dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (Elfen Dai), ond a allai fod angen rhagor o gymorth ariannol gyda'u costau tai yw Taliadau Dewisol Tai.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Taliadau Dewisol Tai ac i weld y Polisi, cliciwch ar y dolenni canlynol: 

Credyd Cynhwysol

Os ydych chi wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ddiweddar ac yn aros am eich taliad cyntaf, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y dolenni canlynol:

Cefnogaeth Cyllidebu

Byddwch hefyd yn cael cynnig cefnogaeth cyllidebu os ystyrir eich bod yn ddiamddiffyn ac angen cyngor ariannol i’ch helpu i reoli eich arian bob mis, a thalu eich biliau ar amser.  Gallwch gael cefnogaeth unrhyw bryd, unwaith y bydd eich hawliad am Gredyd Cynhwysol wedi’i wneud.  Cwblhewch Ffurflen Cefnogaeth Cyllidebu. 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â’r Tîm Ymateb Diwygio'r Gyfundrefn Les ar 01352 704848 neu anfon e-bost at:  wrrt@flintshire.gov.uk 

Twyll Hunaniaeth

Talebau Cychwyn Iach

Mae talebau Cychwyn Iach yn helpu rhieni a merched beichiog sydd ag incwm isel i brynu ffrwythau, llysiau, llaeth a fformiwla babanod.  Mae pob plentyn yn haeddu cychwyn iach mewn bywyd, felly mae Sustain yn arwain galwad 26 o elusennau a chyrff iechyd cenedlaethol gan ofyn i'r Llywodraeth sicrhau nad oes neb yn colli allan.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y dolenni canlynol:

Y Grant Caledi i Denantiaid ar gyfer Tenantiaid y Sector Rhentu Preifat

Rydym ni wrthi'n datblygu proses ymgeisio ar-lein ar gyfer y grant hwn. 

https://llyw.cymru/grant-caledi-i-denantiaid-ar-gyfer-tenantiaid-yn-y-sector-rhentu-preifat-y-coronafeirws