Alert Section

Adolygu Deiliadaeth 2024


Mae Cyngor Sir y Fflint yn adolygu deiliadaeth eiddo i sicrhau bod trethdalwyr yn talu’r swm cywir o dreth y cyngor.
   
Mae Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth arweiniol sy’n arbenigo yn yr adolygiadau hyn yn gweithio gyda’r cyngor i sefydlu deiliadaeth eiddo. 

Os ydych wedi derbyn llythyr, a fyddech chi cystal â chadarnhau eich manylion presennol drwy glicio ar y ddolen Adolygu Deiliadaeth isod. I gael gafael ar eich ffurflen, bydd arnoch chi angen rhoi’ch rhif PIN unigryw ar y llythyr a anfonwyd atoch chi. 

Ffurflen Adolygu Deiliadaeth

I’ch helpu chi i lenwi’r ffurflen rydych wedi ei derbyn neu gydag unrhyw ymholiad arall am yr adolygiad, rydym ni wedi creu rhestr o gwestiynau cyffredin.