Data Premiwm Treth y Cyngor
Mae’r Cyngor yn codi premiwm ar eiddo Treth y Cyngor o dan bwerau a fanylwyd yn y Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ar y cyfraddau canlynol o 1 Ebrill 2023:
• 75% o eiddo Gwag Hirdymor (rhai sy’n wag am 12 mis neu fwy), a
• 100% ar gyfer Ail Gartrefi (cartrefi sy’n cael eu defnyddio yn achlysurol).
Roedd cyfanswm y nifer o eiddo gwag hirdymor yn Sir y Fflint ar 31 Mawrth 2023 yn 644.
Roedd cyfanswm y nifer o ail gartrefi yn Sir y Fflint ar 31 Mawrth 2023 yn 182.
Roedd cyfanswm y nifer o eiddo gwag hirdymor yn Sir y Fflint ar 31 Mawrth 2023 yn amodol ar bremiwm yn 615.
Roedd cyfanswm y nifer o ail gartrefi yn Sir y Fflint ar 31 Mawrth 2023 yn amodol ar bremiwm yn 179.
Ar gyfer 2022/23, roedd y tâl premiwm ychwanegol ar eiddo gwag hirdymor yn £395,050. Ar gyfer 2022/23, roedd y tâl premiwm ychwanegol a godwyd ar ail gartrefi yn £145,287.
Rydym yn defnyddio refeniw o’r Premiwm Treth y Cyngor i gefnogi’r ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau Tai Cyngor a ariennir gan denantiaid y cyngor drwy eu rhent. Rydym hefyd yn defnyddio’r refeniw i atal digartrefedd, trechu tlodi a chyllid i gefnogi prosiectau sy’n sicrhau bod ein cymunedau yn gynaliadwy.