Alert Section

Cyllid Amgen Cynllun Cefnogi Biliau Ynni


Mae’r cynllun hwn bellach wedi cau ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau newydd. 

Os ydych chi angen cymorth gyda chais presennol gallwch gysylltu â’r llinell gymorth.  

Rhif ffôn: 0808 175 3287 - dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
E-bost: alternativefunding@ebss.beis.gov.uk

Sylwch fod estyniad wedi bod i’r dyddiad cau os ydych chi wedi cael eich penodi i weithredu ar ran rhywun arall. 
Mae gwefan Gov.uk yn nodi; 
Os ydych chi wedi cael eich penodi i weithredu ar ran rhywun arall
Gallwch dal wneud cais ar ran rhywun arall os ydych chi wedi cael eich penodi i weithredu ar eu rhan.  Er enghraifft os ydych chi’n gyfreithiwr neu’n gyngor lleol, a bod yr unigolyn yr ydych chi’n ymgeisio ar ei ran yn byw mewn cartref gofal. 
Bydd angen i chi:

• ddefnyddio cyfrif banc busnes
• profi eich bod wedi cael eich penodi i weithredu ar eu rhan 

I wneud cais cysylltwch â thîm y llinell gymorth erbyn 16 Mehefin 2023. 

Os ydynt yn byw mewn cartref gofal
Bydd angen i chi hefyd ddarparu un ai: 

• anfoneb am eu ffioedd cartref gofal o’r 3 mis diwethaf 
• dogfen swyddogol gan y cartref gofal yn cynnwys eu henw a chyfeiriad, datganiad cyllido ac enw a chyfeiriad y cartref gofal 

https://www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic