Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau i helpu i ddiogelu miliynau o aelwydydd rhag costau byw cynyddol yn 2022-23. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Cynllun Disgresiynol, y mae’r Cyngor wedi’i lansio bellach.
Mae'r cynllun hwn wedi’i ddylunio i gefnogi aelwydydd eraill sydd angen cymorth ariannol nad ydynt yn gymwys i gael cymorth dan y prif gynllun.
Os yw eich aelwyd yn bodloni unrhyw rai o’r meini prawf isod, mae’n bosibl y byddwch chi’n gymwys i gael Taliad Costau Byw Disgresiynol fel a nodir:
- A - £150.00 i unrhyw aelwyd ym Mandiau Treth y Cyngor A i D, sy’n atebol, ond wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor oherwydd bod pawb o’r aelwyd naill ai’n fyfyrwyr, rhai sy’n gadael gofal neu â salwch meddwl difrifol.
- B - £125.00 i unrhyw aelwyd ym Mandiau Treth y Cyngor E i I ac sydd naill ai wedi’u meddiannu gan feddianwyr unigol (fel a roddwyd gwybod i’r Cyngor cyn 30 Mehefin 2022), neu sy’n cael gostyngiad o ran band oherwydd addasiadau i ddiwallu anghenion yr unigolyn anabl.
Er mwyn bod yn gymwys i gael taliad dan y Cynllun Disgresiynol, mae’n rhaid i’ch aelwyd fod wedi bod yn atebol am eiddo yn Sir y Fflint fel eu hunig breswylfa a’u prif breswylfa ar 15 Chwefror 2022, ac yn byw yn yr eiddo hwnnw, bod yn gyfrifol am dalu’r biliau cyfleustodau cysylltiedig ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror a bodloni’r meini prawf cymhwyso uchod ar y dyddiad hwnnw.
Os yw eich manylion Debyd Uniongyrchol gan y Cyngor eisoes, a’ch bod yn bodloni un o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer taliad Cynllun Disgresiynol Costau Byw, dylech fod wedi derbyn taliad awtomatig i'ch banc.
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwyso ac nad ydych wedi darparu eich manylion banc i’r Cyngor o’r blaen.
Os gwelwch yn dda Cofrestrwch Yma
Ar ben hynny, os oedd eich aelwyd yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar 15 Chwefror 2022, gallai eich aelwyd fod â hawl i daliad o £125.00 – y Taliad Costau Byw Disgresiynol. Sylwch fod y taliad yma hefyd yn gallu bod yn ychwanegiad at unrhyw Daliad Costau Byw arall sydd eisoes wedi’i wneud.
Os oes gan y Cyngor eich manylion Debyd Uniongyrchol yn barod, a’ch bod chi’n bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys am daliad Cynllun Costau Byw Disgresiynol Prydau Ysgol am Ddim, dylech fod wedi derbyn taliad awtomatig i’ch banc.
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys am Daliad Costau Byw Disgresiynol Prydau Ysgol am Ddim ac nad ydych wedi rhoi eich manylion banc i’r Cyngor yn y gorffennol, fe gewch lythyr tua diwedd mis Medi yn dweud sut mae cofrestru. Fel arall, gallwch ei wneud yma:
https://www.siryfflint.gov.uk/fsmcol
Peidiwch â defnyddio’r ffurflen gofrestru ar y botwm gwyrdd uchod gan na fydd yn derbyn eich cais.