Gwaith Cynnal a Chadw wedi ei drefnu
Bydd gwaith cynnal a chadw wedi ei drefnu yn digwydd rhwng 6yh ar Ddydd Iau’r 27ain o Chwefror a 8yb ar Ddydd Llun y 3ydd o Fawrth 2025.
Er y bydd tarfu ar wasanaethau digidol yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwasanaethau’r Cyngor yn gweithredu fel yr arfer.
Bydd gwefan y Cyngor yn parhau i fod ar gael trwy gydol y cyfnod er na fydd rhai elfennau ar gael.
Ni fydd y gwasanaethau digidol canlynol ar gael:
- Taliadau Gwastraff Gardd 2025
Os ydych yn talu dros y ffôn neu wyneb yn wyneb mewn Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, y diwrnod olaf i dalu er mwyn cael gostyngiad fydd dydd Iau 27 Chwefror.
Er na fydd taliadau ar-lein ar gael yn ystod y cyfnod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio, ni effeithir ar y gostyngiad am daliad ar-lein.
- Darganfod Fy Niwrnod Bin
- Fy Nghyfrif
- Ffeindio Fy Agosaf
- Pob E-ffurflen Sir y Fflint
- Cyfeiriadur Cymunedol
- Taliadau Uniongyrchol
- Gwaith Ffordd Priffyrdd
- Archebu / Taliadau Canolfannau Ailgylchu Cartref
- Porth Gofal Micro
- Cynllun Chwarae
- Newyddion Sir y Fflint
- Y Cyngor a Democratiaeth (cyfarfodydd pwyllgor)
- Swyddi / Ceisiadau Swyddi
- Mapio Sir y Fflint
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Gwiriwr Cymhwysedd Cod Post Dechrau'n Deg
- Porth Darparwyr Grantiau Gofal Plant
Tarfu ar linellau ffôn y Cyngor - 4.30pm dydd Gwener 28 Chwefror tan 8am ddydd Llun 3 Mawrth 2025
O ganlyniad i waith cynnal a chadw a drefnwyd bydd holl linellau ffôn y Cyngor yn cael eu datgysylltu am 4.30pm ddydd Gwener 28 Chwefror 2025.
Bydd hyn yn effeithio ar yr holl alwadau i mewn ac allan i bob rhif ffôn a gyhoeddwyd a rhai na gyhoeddwyd yn holl swyddfeydd y Cyngor.
Os bydd argyfwng yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwasanaethau tu allan i oriau swyddfa’r Cyngor a restrir isod yn parhau i fod ar gael.
- Gwasanaethau Cymdeithasol - 0345 0533 116
- Atgyweirio Tai - 01267 224 911
- Eiddo neu Wasanaethau Stryd - 01267 224 911
- Adeiladau Ysgol - 01267 224 911
Ceisiwch eto ar ôl 8yb ar Ddydd Llun y 3ydd o Fawrth 2025.