Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ffioedd gwresogi cymunedol
Published: 14/07/2017
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, gofynnwyd i aelodau
gymeradwyor ffioedd gwresogi wythnosol mewn eiddo sydd â systemau gwresogi
cymunedol ar gyfer y 3 blynedd nesaf.
Mae naw o gynlluniau gwresogi cymunedol ar draws Sir y Fflint. Y Cyngor sy’n
talu am y tanwydd yn y lle cyntaf, ac yna mae’n casglu arian amdano gan
denantiaid yn ychwanegol at eu rhent wythnosol, gydar nod o adennill y costau
i fod yn gyfartal ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae taliadau gwresogi ar
gyfer defnyddio tanwydd yn seiliedig ar ddefnydd y flwyddyn flaenorol.
Mae cost nwy wedi cynyddu’n sylweddol yn 2017/18, felly mae angen cynyddu’r ffi
wresogi wythnosol mewn chwech o’r naw cynllun gwresogi cymunedol.
Mae defnydd yn y tri bloc twr yn y Fflint wedi gostwng ar ôl y mesurau arbed
ynni a gymerwyd yn rhan o waith Safon Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Rwy’n falch iawn bod ein gwaith i arbed ynni yn Nhyrraur Fflint yn golygu y
bydd ffioedd gwresogin gostwng yn Castle Heights dros y flwyddyn nesaf i
gyfartaledd o £5.10. Ni fydd newid yn ffioedd y ddau floc arall ar gyfer y
flwyddyn nesaf. Mae cynnydd mewn ffioedd gwresogi’n cael ei gyflwyno fesul cam
yn ein chwe chynllun arall, gan gydnabod y pwysau ariannol y mae cartrefin ei
wynebu.
Bydd yr holl newidiadau mewn grym o 1 Medi 2017 ymlaen.