Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith ar briffordd yr A5026 Boot Hill, Bagillt
Published: 17/07/2017
Mae Cyngor Sir u Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi ei sicrhau i gynnal
gwaith cynnal a chadw ar briffordd yr A5026 Boot Hill.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Gwener 21 Gorffennaf ac yn cymryd oddeutu 5
wythnos i’w gwblhau.
Er hwylustod bydd y rhan hon o’r A5026 rhwng Treffynnon a Bagillt ar gau i
draffig trwodd a bydd llwybr gwyro wedi ei arwyddo’n briodol i sicrhau
diogelwch gweithwyr a theithwyr. Bydd mynediad ar gael i breswylwyr.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Mae angen cau’r ffordd er mwyn caniatáu i’r Cyngor ymgymryd â’r gwaith yn
ddiogel a chyn gynted â phosibl. Bydd buddsoddiad y Cyngor yn y briffordd hon
yn diogelu cyflwr y ffordd am flynyddoedd i ddod ac rydw i’n croesawu’r
gwelliannau ac yn gofyn i deithwyr fod yn amyneddgar yn ystod cyfnod y gwaith.”
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y
gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.