Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor
Published: 10/07/2017
Bydd gofyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir Y
Fflint gefnogi a datblygu’r fframwaith ar gyfer adolygu’r Strategaeth Ariannol
Tymor Canolig (MTFS) 2018/19 pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae’r adroddiad yn nodi adolygiad cychwynnol o’r sefyllfa gyfredol ar gyfer
2018/19. Bydd gwaith pellach yn dilyn hyn ar ragweld sefyllfa ariannol ar gyfer
y blynyddoedd yn y dyfodol gyda’r bwriad i ddatblygu MTFS sydd yn rhagweld
sefyllfar Cyngor hyd at 2022.
Y “bwlch” a ragwelir ar gyfer 2018/19 rhwng incwm a gwariant yw £11.7M ar hyn o
bryd. Bydd proses gosod cyllideb ac amserlen yn cael ei gyhoeddi gan y Cabinet
yn fuan. Mae ail-fabwysiadu’r MTFS yn gam cyntaf pwysig yn y broses gosod
cyllideb flynyddol a fydd hefyd yn ystyried pwysau gofal cymdeithasol,
gweithlu, lleol a chenedlaethol yn ogystal â chwyddiant.
Mae hyn ar ben yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol maer Cyngor wedi gwneud
dros nifer o flynyddoedd wrth ddiogelu gwasanaethau a swyddi lleol, er ei fod
yn Gyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae arnom angen gweithio’n galetach nag erioed i gynllunio a darparu
gwasanaethau hanfodol y cyngor yn y cyfnod parhaus o galedi ariannol. Mae Sir
y Fflint yn gyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid, ac oherwydd hyn, mae’n fwy
agored i effeithiau’r gostyngiadau blynyddol sylweddol wrth gyfuno gydag
anghenion cynyddol ein preswylwyr ar gyfer gwasanaethau allweddol megis gofal
cymdeithasol. Rwy’n credu bod cefnogaeth a dealltwriaeth gynyddol y cyhoedd o
realiti bod rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar unwaith i ddadwneud effeithiau
caledi os ydym am amddiffyn gwasanaethau’n llwyddiannus ar gyfer y dyfodol.
“Mae pob maes gwasanaeth y Cyngor yn destun adolygiadau manwl a pharhaus, ac
mae gofyn sut y gallant ymateb ir pwysau digynsail gyda chostau. Opsiynau
effeithlonrwydd cyfyngedig sydd gan y Cyngor heb orfod lleihau gwasanaethau i
lefelau annerbyniol o ddarpariaeth gwasanaeth.”