Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Myfyrwyr yn tyrchu drwy’r archifau
Published: 06/07/2017
Roedd Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint yn falch i groesawu chwech o fyfyrwyr o
Ysgol Uwchradd Penarlâg yn ddiweddar.
Treuliodd y myfyrwyr ran o’r amser yn rhestru cofnodion mewn bocs o Gasgliad
Plwyf Penarlâg. Mae’r cofnodion hyn yn rhan o bortffolio a gasglwyd gan y Parch
Stephen Gladstone, rheithor Penarlâg rhwng 1872-1904 ac mae’n cynnwys posteri,
rhaglenni, toriadau newyddion, tocynnau a threfnau gwasanaethau. Mae hwn yn
gasgliad hynod ddiddorol i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Penarlâg.
Roedd y myfyrwyr yn y Swyddfa Gofnodion fel rhan o gydran wirfoddol Bagloriaeth
Cymru. Y thema eleni oedd ‘Yr Amgylchedd’ felly aethant ati i gyfunor gwaith
yn y swyddfa gydag ychydig o arddio. Er y tywydd ofnadwy, cliriodd y myfyrwyr
y chwyn ar hyd y lôn at yr Hen Reithordy a thorri’r gwrychoedd oedd yn estyn
dros y llwybr gan wneud yr ardal yn ddiogel ar gyfer ein cwsmeriaid.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
“Roedd yn wych gweld y Swyddfa Gofnodion yn croesawu’r myfyrwyr o Ysgol
Uwchradd Penarlâg. Gweithiodd y criw’n galed dros y 2 ddiwrnod ac roeddent yn
amlwg yn mwynhau gweld y dogfennau yn y casgliad. Cawsant hefyd y cyfle i
astudio rhai o’r dogfennau eraill yn ymwneud â’u hysgol, a bydd copïau o’r
rheini yn rhan o’u portffolio o dystiolaeth.”
Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington:
“Mae gan y Swyddfa Gofnodion gyfoeth o ffynonellau cynradd, ar draws ystod
eang o destunau, a all helpu myfyrwyr gyda’u hastudiaethau a byddem yn eu
hannog i gael golwg ar ein gwefan a chwilio drwy ein cronfeydd data i weld a
oes gennym unrhyw beth a allai helpu gydag unrhyw brosiect penodol.”
Os hoffech chi wneud apwyntiad i weld y casgliad hwn, cysylltwch â’r Swyddfa
Gofnodion gan ddyfynnu cyfeirnod P/28/1/91. Mae’r Swyddfa Gofnodion wedi ei
lleoli yn yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg a gellir cysylltu â nhw drwy ffonio
01244 532364 neu anfon e-bost i archives@flintshire.gov.uk.