Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ahoi! Mae’r Teithwyr Amser Bychain yn ôl unwaith eto!
Published: 05/06/2017
Yn ddiweddar fe groesawodd Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarlâg 13 o fôr-ladron
dewr i de parti Teithwyr Amser Bychain.
Daeth y môr-ladron, gan gynnwys un babi, draw gyda’u rhieni i gael hwyl yn
dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth.
Mae’r Archifdy wedi bod yn cynnal digwyddiadau Teithwyr Amser Bychain ers peth
amser bellach, ac mae themâu’r sesiynau blaenorol wedi cynnwys cludiant,
ffermio, gwyliau a bwyd. Eglurodd Claire Harrington, Prif Archifydd Cyngor Sir
y Fflint, sut y dechreuodd pethau:
“Aeth rhai o’m cydweithwyr ar gwrs hyffordd a dod yn ôl yn frwdfrydig dros
annog plant cyn oed ysgol i ymddiddori mewn hanes. Rydym ni’n croesawu llawer o
ysgolion ir Archifdy, ond fel rheol plant iau hyn a disgyblion uwchradd sy’n
gwneud prosiectau hanes ydyn nhw. Ond roedd arnom ni hefyd eisiau tanio
dychymyg plant iau, i blannur hedyn yn ifanc iawn. Cawsom arian gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer deunyddiau i redeg y sesiynau hyn ac mae’r plant a’u rhieni wrth
eu bodd.”
Meddai Sue Copp, Cymhorthydd yr Archifau a Chapten y diwrnod:
“Mae heddiw yn ddiwrnod llawn hwyl i edrych ar hanes ein hardal ac Afon
Dyfrdwy, gan chwarae gemau, canu, creu pegiau môr-ladron ac ynysoedd llawn
trysor! Rydym ni’n cymysgu ffeithiau gyda hwyl a phan maer plant yn dod yn ôl
i’n gweld ni gyda’u hysgolion maen nhw awyddus iawn i rannu’r hyn maen nhw wedi
ei ddysgu am hanes yn yr ystafell ddosbarth.”
Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol – felly cadwch olwg
am y sesiwn nesaf fydd yn cael ei chynnal yn ystod gwyliau’r haf.
Mae’r Archifdy yn gartref i archifau unigryw Sir y Fflint ac ar gael i unrhyw
un sydd â diddordeb yn y gorffennol, pa un ai ydych chi’n ymchwilio i hanes
eich teulu, cartref, ardal neu ysgol neu’n gwneud aseiniadau coleg.