Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae’r ardd gymunedol yn ei blodau
Published: 14/06/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu prosiect i helpu i ddatblygu gerddi
cymunedol yn un o’u cynlluniau tai. Mae’r Tîm Tasgau’n fenter newydd sy’n cael
ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru
i rai syn hyn na 25 ac syn byw mewn clwstwr Cymunedau am Waith. Mae
Groundwork Gogledd Cymru’n darparu’r prosiect ynghyd â’u partner, Cymunedau am
Waith.
Mae gardd gymunedol newydd wedi’i dewis yn Pen-y-Llan Courts yng Nghei Connah
lle mae’r Cyngor yn uwchraddio’r eiddo yn rhan o’r cynllun Lleoedd Llewyrchus
Llawn Addewid yn ogystal â gweithio i sicrhau bod yr holl eiddo’n cyrraedd
Safon Ansawdd Tai Cymru.
Mae deg o wirfoddolwyr yn gweithio ar y prosiect cymunedol sy’n para deg
wythnos, gan dreulio deuddydd yr wythnos yn dysgu sgiliau newydd ar gwrs
achrededig ar wirfoddoli.
Maent yn helpu â gwaith plannu a chynnal a chadw’r ardd gymunedol newydd yn
Fern/Ivy Court ac maent hefyd yn treulio diwrnod yn ailwampio gardd gymunedol
Holly Court. Datblygwyd yr ardd gymunedol hon yn 2009. Mae’r gwirfoddolwyr yn
dod yn fwy hyderus â nifer o sgiliau mewn meysydd fel adeiladu, iechyd a
diogelwch yn y gwaith a’r amgylchedd.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Gobeithiwn y bydd yr ardd gymunedol newydd yn darparu amgylchedd braf i holl
drigolion Pen-y-Llan ei fwynhau. Da yw gweld bod y gwirfoddolwyr wedi ennill
profiad gwerthfawr a chymhwyster drwy eu gwaith caled. Mae’r ardd wir yn
ategu’r holl waith gwella sydd wedi’i wneud yn yr ardal hon yn y blynyddoedd
diweddar. Fe hoffwn i gydnabod cymorth hael BAAS hefyd, y contractwr ar y
safle, a ddarparodd gasgen ddwr i gasglu dwr glaw – cam arall tuag at greu lle
sy’n fwy amgylcheddol wyrdd ar gyfer y trigolion.”
Dywedodd Jan Owen, Rheolwr Prosiectau Groundwork Gogledd Cymru:
“Yn Groundwork, rydyn ni’n cefnogi cymunedau i wneud newidiadau cadarnhaol.
Mae ein rhaglen Tîm Tasgau newydd wedi’i hariannu drwy Gronfa Arloesi
Llywodraeth Cymru ac mae wedi’i hanelu tuag at gefnogi pobl i gael sgiliau,
cymwysterau a hyder newydd drwy ymgymryd â phrosiect cymunedol ymarferol. Rydyn
ni’n mwynhau gweithio gyda’r gwirfoddolwyr i drawsnewid yr ardd gymunedol ym
Mhen-y-Llan ac hefyd i wneud gwahaniaeth i’r rhai sydd ynghlwm â’r rhaglen drwy
gynyddu’r nifer o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol.”
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, cyrff
cyhoeddus, cwmnïau preifat a chyrff eraill yn y sector gwirfoddol i gefnogi
cymunedau mewn angen. Maent yn helpu pobl a sefydliadau i wneud newidiadau er
mwyn creu gwell cymdogaethau, meithrin sgiliau a rhagolygon swyddi a byw a
gweithio mewn ffordd sy’n fwy gwyrdd.
Yn sefyll: y Cyng. Bernie Attridge, Simon Haines (Groundwork), John Jones
(CSFf), y Cyng. Paul Shotton, y Cyng. Andy Dunbobbin, Tony Jones (CSFf)
Yn y blaen: y gwirfoddolwr Mark Winter, Debbie Davies (CSFf), Jan Owen
(Groundwork)