Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant mewn her ffitrwydd cenedlaethol
Published: 11/05/2017
Mae Pafiliwn Jade Jones yn y Fflint yn dathlu eu llwyddiant mewn ymgyrch i
gefnogi ysgol leol.
Mae’r ymgyrch, a elwir yn “Gadewch i Ni Symud am Fyd Gwell”, yn ymgyrch
fyd-eang i ymdrin â gordewdra a diffyg ymarfer corff. Y nod oedd ymgysylltu â’r
gymuned a’u hannog i ddod i “gyfrannu” eu gweithgaredd corfforol i helpu’r
gymuned leol a chroesawu ffordd o fyw iachach. Roedd yr ymgyrch yn weithredol o
13-31 Mawrth.
O’r 219 o safleoedd a gymrodd ran ar draws y DU, gorffennodd y Fflint yn safle
26 – gyda 1,003,484 o symudiadau (fel y mesurwyd gan yr offer) sy’n ganlyniad
rhagorol o ystyried mai 17 o beiriannau cardio sydd ganddynt yn eu campfeydd,
llai na llawer o ganolfannau hamdden eraill oedd yn cymryd rhan.
Dywedodd y Prif Swyddog dros Newid Sefydliadol yng Nghyngor Sir y Fflint, Ian
Bancroft:
“Mae’r athrawon yn ysgol arbenigol Maes Hyfryd, Ysgol Uwchradd y Fflint,
gweithlu Pafiliwn Jade Jones ac aelodau’r gampfa wedi gwirioneddol ddod ynghyd
i gyflawni hyn. Roedd yn wych i’r gymuned ac roedd elfen gystadleuol pawb iw
weld drwy gydol yr her!”
Dywedodd goruchwyliwr ystafell ffitrwydd y Fflint, Alan Duppa:
“Mae taro dros filiwn o symudiadau ar gyfer canolfan hamdden gymharol fach yn
llwyddiant anferthol. Y prif fwriad oedd i fynd am y 3 miliwn ac ennill offer
Arke ar gyfer campfa Ysgol Maes Hyfryd. Er i ni ddod yn fyr o hynny, mae miliwn
o symudiadau yn dangos y penderfynoldeb rhagorol gan bawb a gymrodd ran. Nid
yn unig rydym wedi cyflawni rhywbeth arbennig, ond rydym wedi gwella lefelau
ffitrwydd cwsmeriaid ar gweithlu ac wedi gwneud mwy o bobl yn ymwybodol or
lefelau cynyddol o ordewdra ar draws y byd. Roeddwn mor hapus gyda’r ymdrech a
wnaed gan bawb a gymrodd ran. Rydym ni’n un o ddim ond 26 canolfan sydd wedi
cyflawni’r trothwy miliwn ac rydym wedi ennill diwrnod hyfforddi, ac rwyn
gobeithio y bydd staff yn Ysgol Maes Hyfryd yn mynychu. Hefyd roeddem wedi
gwerthu crysau t a bagiau a gododd £200 ir ysgol.