Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Agored Ddoe a Heddiw Y Parlwr Du
Published: 18/04/2017
Mae partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a Grwp Treftadaeth
Gymunedol y Parlwr Du yn cynnal diwrnod agored ym Mhentre Peryglon, Ffordd yr
Orsaf, Talacre dydd Sul 23 Ebrill o 11am-4pm.
Bydd digonedd o weithgareddau drwy gydol y dydd gyda rhywbeth i bob oed.
Mae Cylchdaith sy’n cysylltur Parlwr Du a Thalacre wedi ei datblygu gyda
chymorth cyllid gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae cyfres o baneli ar hyd y llwybr a thaflen yn egluro hanes Pwll Glor Parlwr
Du, y pwll dwfn olaf yng Ngogledd Cymru, a phwysigrwydd hanesyddol Aber Afon
Dyfrdwy ar gyfer llongau. Fe fu disgyblion o Ysgol Mornant ac Ysgol Bryn Garth
yn gweithio gyda’r gwneuthurwr print Ruth Thomas i gynhyrchu print o longau,
adar a mwyngloddio ac maent yn addurno’r daflen ar paneli.
I’r rhai sy’n defnyddio ffonau clyfar, fe fydd cyfle i brofi’r ap newydd yr
ydym yn ei ddatblygu i helpu ymwelwyr i grwydro’r ardal.
Bydd Cambria Band yn perfformio cyn i’r llwybr gael ei agor gan aros i gynnal
gweithdai cerddoriaeth drwy gydol y dydd. Bydd Ruth Thomas yn helpu teuluoedd i
wneud printiau o blu a gwrthrychau naturiol eraill. Hefyd bydd sesiynau sgiliau
syrcas a phaentio wynebau ac felly bydd digon i ddiddanu’r teulu.
Rydym yn casglu atgofion am y pwll i’w defnyddio mewn llyfryn ac ar-lein a
hoffem i gyn lowyr a’u teuluoedd ddod ag unrhyw hen luniau neu eitemau coffa
eraill gyda nhw a dod i weld beth rydym wedi ei gasglu eisoes. Byddwn yn sganio
neu’n tynnu lluniau or eitemau ar y diwrnod fel y gallwch fod yn dawel eich
meddwl na fyddant yn cael eu niweidio. Bydd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Glowyr
Gogledd Cymru yn dod â’u fan symudol gyda mwy o arddangosfeydd ac arteffactau
glofaol.
Bydd y Gymdeithas Gwarchod Adar yn dod ag arddangosfeydd a bydd cynrychiolwyr
yn bresennol yn y guddfan adar i gynorthwyo ymwelwyr i ddysgu mwy am
bwysigrwydd ecolegol yr aber, sy’n bwysig yn rhyngwladol am ei adar, ac i
adnabod yr adar sy’n byw yma.
Y digwyddiad hwn yw’r cyntaf o gyfres fydd yn cael ei ariannu gyda’n grant o
Gronfa Treftadaeth y Loteri i helpu i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth y pwll
glo a’r aber o’i gwmpas ac rydym yn gobeithio y bydd llawer yn dod ir
digwyddiad.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm y Gwasanaeth Cefn Gwlad ar 01352 703900
neu e-bostiwch countryside@flintshire.gov.uk.