Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yr Argyfwng Costau Byw
Published: 08/09/2022
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ynglyn â chynlluniau i gynorthwyo â chostau byw yn ogystal â chynnig i ddatblygu “canolfannau cynnes” yn y Sir yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 20 Medi.
Mae’r cynnydd diweddar mewn costau byw wedi ychwanegu at gyfuniad o ffactorau eraill sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd a’n cymunedau ni, gan orfodi mwy o bobl i fyw mewn tlodi a chreu anghenion cymdeithasol nad oeddent yn bodoli cyn y pandemig.
Mae’n bwysig felly bod y Cyngor a’i bartneriaid yn ystyried pa gamau i’w cymryd a pha gefnogaeth y dylid ei hestyn i’n cymunedau er mwyn lliniaru ar rai o’r effeithiau hyn.
Mae chwyddiant, costau ynni drutach, a chodiadau mewn cyfraddau llog a threthi oll yn cyfrannu at yr hyn y mae llawer o bobl yn ei alw’n “argyfwng costau byw”.
Disgwylir i’r argyfwng waethygu dros y gaeaf a datgelodd pôl piniwn yn ddiweddar bod traean o bobl yn pryderu na fyddant yn medru talu eu biliau ynni eleni.
Mae angen i’r Cyngor a’i bartneriaid sicrhau bod yr ymateb a’r gefnogaeth a ddarperir yn ein cymunedau mor gynhwysfawr â phosib.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:
“Ers tua blwyddyn bellach mae’r Cyngor wedi bod yn cefnogi pobl leol mewn llawer o wahanol ffyrdd, fel Well-Fed Sir y Fflint (partneriaeth rhwng Can Cook a Chymdeithas Tai Clwyd Alun) a’r gwasanaeth Pryd ar Glud. Rydyn ni hefyd wedi agor dwy ganolfan gymorth yn Shotton a Threffynnon a mynd ati i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn hawlio’r holl gymorth ariannol mae ganddyn nhw’r hawl i’w gael.
“Fe fyddwn ni’n cyflwyno mwy o wasanaethau i gefnogi ein trigolion mewn cyfnod arbennig o anodd. I ddechrau, fe fyddwn ni’n ehangu’r cynllun bwyd Well-Fed ac yn agor dwy ganolfan gymorth arall. Byddwn yn dal i gydlynu ein hymdrechion gyda’n partneriaid, sefydliadau yn y trydydd sector a gwirfoddolwyr fel bod modd inni gefnogi cynifer o bobl â phosib.”
Mae’r adroddiad yn cynnwys cynnig i greu “canolfannau cynnes” i leddfu pryderon pobl sy’n cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd ac yn wynebu tlodi bwyd ac unigrwydd.
Byddai gweithredu’r cynnig yn golygu troi’r 22 o ganolfannau cymunedol ar safleoedd tai gwarchod y Cyngor yn ganolfannau cynnes dros y gaeaf, yn ogystal â’r canolfannau cymunedol yn Shotton, Treffynnon a Holway. Mae’r Cyngor yn awyddus i weithio â sefydliadau a chanolfannau eraill i sicrhau fod pob ardal wedi’i chynnwys.
Ymhob canolfan gynnes bwriedir darparu oergell, microdon a phrydau Well-Fed fel bod modd i bobl fwyta gyda’i gilydd neu fynd â’u bwyd adref.
Meddai’r Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid a Chynhwysiad Cymdeithasol:
“Mae’n anodd credu, a ninnau yn yr unfed ganrif ar hugain, bod yn rhaid inni gymryd camau fel hyn i gadw ein pobl yn gynnes; mae’r argyfwng ynni’n effeithio ar ein cymunedau’n barod ac yn ôl pob tebyg bydd pethau’n mynd o ddrwg i waeth i bobl yn Sir y Fflint sy’n cael trafferth dau ben llinyn ynghyd. Felly dwi’n croesawu’r cynllun hwn ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos â mudiadau cymunedol i wneud yn siwr fod pob ardal yn y Sir yn elwa.”
Meddai’r Cynghorydd David Coggins Cogan, Democrat Rhyddfrydol:
“Yn bersonol, dwi’n ddigalon iawn am y sefyllfa sydd ohoni. Rydyn ni’n un o’r deg o wledydd cyfoethocaf yn y byd, ond eto dyma gyngor lleol yn gorfod darparu ystafelloedd cynnes i bobl. Galwn ar y Llywodraeth yn Llundain i ymateb i’r argyfwng ar frys, gyda thosturi.”
Ychwanegodd Arweinydd Grwp y Democratiaid Rhyddfrydol, y Cynghorydd Hillary McGuill:
“Dyma enghraifft wych o roi gwleidyddiaeth plaid o’r neilltu. Rydyn ni’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda Llafur i liniaru ar effaith tlodi tanwydd ar bobl.”