Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rydyn ni eisiau chi'n ôl!
Published: 30/08/2022
Wrth i ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd agosáu, mae Sir y Fflint am groesawu pawb yn ôl!
Mae’n ffaith bod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn sicrhau addysg lwyddiannus – o’r amser y mae plentyn yn dechrau’r ysgol.
Gall plant sydd â phresenoldeb da iawn wneud y gorau o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Maent yn fwy tebygol o ennill 5 TGAU A*- C neu fwy neu gymwysterau cyfwerth.
Gall unrhyw absenoldeb gael effaith andwyol ar gyflawniad academaidd a all arwain at lai o ddewisiadau a chyfleoedd bywyd.
Ac mae'n adio'n gyflym! Efallai bod presenoldeb o 91.1% yn swnio’n iawn, ond mewn gwirionedd mae’n golygu colli 17 diwrnod o ysgol mewn blwyddyn – sydd, ar gyfartaledd, yn golygu 1 gradd TGAU is.
Mae cyfanswm o 175 diwrnod ddim yn yr ysgol y flwyddyn. Mae hyn yn rhoi digon o amser i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd a mynd ar wyliau.
Mae hefyd yn erbyn y gyfraith i blant o oedran ysgol gorfodol fod yn absennol o'r ysgol heb reswm da. Dylai presenoldeb fod yn flaenoriaeth ac rydym am i blant yn Sir y Fflint gael y cyfleoedd gorau sydd ar gael – rydym yma i helpu!
Os oes gennych UNRHYW bryderon am bresenoldeb, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Lles Addysg eich ysgol neu ffonio’r Gwasanaeth Lles: 01352 704155 neu educationwelfareservice@flintshire.gov.uk.