Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Ffair Swyddi gyntaf yn Nhreffynnon
Published: 16/08/2022
Cynhaliwyd digwyddiad swyddi, sgiliau a gyrfaoedd agoriadol yn Nhreffynnon yn ddiweddar.
Cynhaliwyd hwn ochr yn ochr â’r farchnad wythnosol a ffair hwyl, gan roi cyfle gwych i lawer o bobl fynychu.
Trefnwyd y Ffair Swyddi gan Gymunedau dros Waith mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Waith a Mwy a Gyrfa Cymru. Roedd y Ffair Swyddi wedi’i hanelu at oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith a bu’n gydweithrediad llwyddiannus arall.
Roedd preswylwyr Treffynnon a’r cymunedau lleol cyfagos yn falch o gael digwyddiad fel hyn ar stepen eu drws, gan roi cyfle iddynt gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael iddynt ynghyd â gwybodaeth gan ddarparwyr megis Gyrfa Cymru a Chymunedau am Waith.
Roedd dros 12 o gyflogwyr yn bresennol ar y dydd gan gynnwys Haven, New Directions, 2 Sisters a Tiffin Sandwiches, gyda dros 200 o swyddi gwag ar gael. Dyma oedd gan rai o’r cyflogwyr i ddweud:
“Roeddwn yn credu ei bod yn beth da ei gysylltu i ddigwyddiad i deuluoedd oedd yn cael ei gynnal ar y Stryd Fawr. Arweiniodd hyn at lawer o ymwelwyr a diddordeb gan bobl efallai na fyddai wedi ein hystyried fel cyflogwyr fel arall.”
“Digwyddiad da gyda nifer dda o bobl. Wedi cynhyrchu nifer o geisiadau eisoes.”
“Llawer o ffurflenni wedi cael eu llenwi; mae un wedi cysylltu i drefnu ymweliad i’r Uned. Yn ystod yr haf, allwn ni gael mwy o ddigwyddiadau fel hyn gan ei fod wedi agor i fwy o’r cyhoedd, a chredaf ei fod yn fwy hygyrch.”
Roedd adborth gan fynychwyr yn ogystal â chyflogwyr yn gadarnhaol gydag ansawdd yr ymgeiswyr a lefel o ymgysylltiad yn uchel iawn. Roedd yn gyfle i drafod yn uniongyrchol â chyflogwyr ar sail un i un yn ddefnyddiol iawn gyda rhai ymgeiswyr yn cael eu galw am gyfweliad ar unwaith.
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen Cymunedau am Waith yn Sir y Fflint, cysylltwch â nia.parry@flintshire.gov.uk neu Janiene.davies@flintshire.gov.uk.