Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
‘Bwyd a Hwyl’ dros yr haf yn ysgolion Sir y Fflint!
Published: 11/08/2022
Mewn wyth o ysgolion yn Sir y Fflint daeth 286 o blant rhwng 5 a 12 oed ynghyd i elwa ar y rhaglen Bwyd a Hwyl eleni.
Hwn oedd y tro cyntaf i Ysgol Gronant ac Ysgol Glan Aber gynnig y rhaglen.
Mae Ysgol Treffynnon, Ysgol Gynradd Queensferry, Ysgol Maesglas, Ysgol Bryn Garth, Ysgol Bryn Gwalia ac Ysgol Uwchradd Cei Connah eisoes wedi darparu’r rhaglen yn llwyddiannus mewn blynyddoedd diweddar.
‘Bwyd a Hwyl’ yw’r enw newydd ar y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol a fu ar waith yn Sir y Fflint ers 2018, ac felly dyma’r bumed flwyddyn.
Mae’r plant yn cael brecwast, byrbryd a chinio poeth iach bob dydd gan Arlwyo NEWydd. Mae Bwyd a Hwyl yn rhoi pwyslais mawr ar addysg maeth, ac yn annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau bwyd ymarferol bob wythnos. Mae Hamdden Aura yn darparu amrywiaeth helaeth o weithgareddau chwaraeon a gemau rhyngweithiol ynghyd â dewis amrywiol o weithgareddau cyfoethogi y mae pob ysgol yn eu cydlynu. Bu’r plant yn mwynhau dawnsio, sgiliau syrcas a drymio, a gweld rhai o ddarparwyr mwyaf poblogaidd y blynyddoedd diwethaf yn dychwelyd.
Bu Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet dros Addysg, yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a Hamdden a Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn ymweld â dwy o’r ysgolion Bwyd a Hwyl yn ddiweddar - Ysgol Bryn Garth ac Ysgol Glan Aber.
Meddai’r Cynghorydd Roberts:
“Eleni byddwn yn gwahodd rhieni yn ôl i’r ysgol i eistedd â’u plant wrth y bwrdd bwyd ac ymuno yn y gweithgareddau, a hefyd yn rhoi bocs ryseitiau i bob plentyn - mae ryseitiau iach ar gardiau yn y bocs ynghyd â’r holl gynhwysion angenrheidiol i’r plant a’r rhieni eu paratoi gartref. Mae hynny’n arbennig o fuddiol wrth i gostau byw gynyddu.”
Dywedodd Claire Homard:
“Ni fyddai modd inni gynnal Bwyd a Hwyl heb ymroddiad y staff ymhob ysgol sy’n cadw’r drysau ar agor am dair wythnos i ddarparu’r rhaglen hon er budd y plant. Diolch o galon iddynt am eu holl waith caled brwdfrydedd, yn ogystal â’r holl bartneriaid a fu’n rhan o ddarparu Bwyd a Hwyl yn Sir y Fflint eleni.”
YSGOL GLAN ABER
YSGOL BRYN GARTH
Claire Homard with students from Ysgol Glan Aber
|
|
|
|