Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Drysau Agored yn Archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru
Published: 08/08/2022
DIWRNOD AGORED YN ARCHIFAU GOGLEDD-DDWYRAIN CYMRU, PENARLÂG
Bydd Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru ym Mhenarlâg yn cynnal Diwrnod Agored ddydd Sadwrn, 24 Medi 2022 (rhwng 10am a 2pm).
Yn ystod y Diwrnod Agored bydd yno ddarlithoedd ac arddangosfeydd ynglyn â hanes Courtauld, y cwmni oedd â thair o ffatrïoedd yn y Fflint: Aber Works, Deeside Mills a Castle Works, a dwy o ganolfannau cynhyrchu rayon ym Maes-glas. Yn ei anterth roedd cwmni Courtauld yn cyflogi mwy na 10,000 o bobl yn Sir y Fflint.
Bydd yr arddangosfeydd yn cynnwys gwrthrychau a pheiriannau o’r safleoedd yn Sir y Fflint, drwy haelioni Amgueddfeydd Sir y Fflint; bydd yno hefyd arddangosfa ynglyn â’r menywod a fu’n gweithio yn ffatrïoedd Courtauld, a grëwyd gan Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr.
Ymhlith y menywod hynny oedd y Cynghorydd Vicky Perfect, a ddechreuodd weithio i Courtauld pan oedd hi’n bymtheg oed, a bydd hi’n rhannu ei phrofiadau o weithio yno yn y 1960au; bydd darlith gan Sophie Fish o Amgueddfeydd Sir y Fflint (AURA) ynglyn â hanes cyffredinol y safleoedd, a’r prosiect sy’n mynd rhagddo mewn partneriaeth rhwng AURA a Sefydliad Courtauld yn Llundain.
Bydd cyfle hefyd i weld ffilm a gynhyrchwyd gan Archif Menywod Cymru o’r enw ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri’ sy’n bwrw golwg ar weithwyr mewn ffatrïoedd yng Nghymru, gan gynnwys Courtauld yn Sir y Fflint, a chyfle i gael golwg gyntaf ar ddrama gerdd newydd ar yr un thema, ‘Tic Toc’, a fydd yn mynd ar daith o amgylch gogledd Cymru yn 2023.
Bydd yno deithiau tywys y tu ôl i’r llenni yn hen adeilad hanesyddol yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg, i weld yr ystafelloedd diogel lle rheolir yr amgylchedd i gadw’r archifau unigryw ac amhrisiadwy am hanes Sir y Fflint sydd Byddwch hefyd yn ymweld â’r Stiwdio Cadwedigaeth, lle bydd y Ceidwad yn egluro’r technegau a ddefnyddir i ddiogelu’r eitemau rhyfeddol hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw am y Daith Dywys a’r Darlithoedd – cysylltwch ag Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru i gael y manylion drwy ffonio 01244 532364 neu e-bostio archives@newa.wales.
Y rhaglen arfaethedig:
9.45am – Agor y drysau
10.00am – Taith y tu ôl i’r llenni i weld yr Ystafelloedd Diogel a’r Stiwdio Gadwedigaeth
11.15am - Ffilm: ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri’, profiadau menywod yn gweithio mewn ffatrïoedd yng Nghymru, gan gynnwys safleoedd Courtauld yn Sir y Fflint.
11.30am – Darlith gan y Cynghorydd Vicky Perfect: ‘Fy Mhrofiadau o weithio i Courtauld yn y 1960au’.
12.00pm – Darlith gan Wasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint: ‘Cysylltu Courtauld’: Hanes byr o gwmni Courtaulds yn Sir y Fflint a chefndir i’r prosiect partneriaeth Lleisiau Courtald.
12.30pm – Lluniaeth a chyfle i weld yr arddangosfeydd - Arddangosfeydd: Gwrthrychau Courtauld gan Amgueddfeydd AURA (Sir y Fflint); Menywod yn gweithio yn Courtauld, 1931-1958, gan Liz Newman (Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru) a Suzanne Jones (Prifysgol Glyndwr)
O 12.45pm ymlaen – ffilm am sioe gerdd ynglyn â gweithwyr ffatri yng Nghymru, ‘Tic Toc’, gan gynnwys cyfweliadau â gweithwyr a detholiadau o’r perfformiad, gyda rhagarweiniad gan Catrin Edwards, Swyddog Prosiect.
1.00pm – Taith y tu ôl i’r llenni i weld yr Ystafelloedd Diogel a’r Stiwdio Gadwedigaeth
2.00pm – Cloi
Gweithiwr yn Courtaulds, 1970au