Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bws Fflecsi i lansio yn ardal Bwcle 

Published: 10/08/2022

fflecsi.jpgMae Trafnidiaeth Cymru yn cymryd cam arall ymlaen drwy ehangu’r gwasanaeth bws fflecsi a’i gyflwyno i ran arall o Sir y Fflint.

Gan weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru a Wrecsam a Prestige Taxis Ltd, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno’r gwasanaeth bws hyblyg newydd yn ardal Bwcle ddydd Llun 15 Awst 2022.  

Mae Fflecsi yn ffordd wahanol o deithio ar fws ac yn wasanaeth newydd cyffrous gan Trafnidiaeth Cymru.  Bydd y gwasanaeth fflecsi newydd ar gyfer Bwcle a'r ardaloedd cyfagos yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth 6 diwrnod yr wythnos y gellir ei archebu ymlaen llaw i drigolion o fewn y maes gwasanaeth penodedig.

Byddwch yn talu ar y bws fel unrhyw wasanaeth arall – ond y gwahaniaeth mwyaf yw eich bod yn archebu’r bws drwy’r ap neu dros y ffôn.  Gall bysiau Fflecsi eich codi a'ch gollwng mewn ardal wasanaeth ac nid dim ond mewn safle bws. Mae'n rhaid i chi archebu eich taith drwy'r ap neu dros y ffôn, yna bydd bws yn eich codi ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall pob teithiwr gyrraedd lle maen nhw am fynd.

Dyma ddywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet y Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes:

“Rwy’n falch iawn o gael gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ehangu’r gwasanaeth fflecsi i ardal Bwcle.  Mae Fflecsi yn galluogi i drigolion fynd allan, gyda chysylltiadau uniongyrchol â’r siopau lleol, cyfleusterau hamdden ac apwyntiadau meddygol, yn ogystal â gallu teithio mewn ffordd fwy hyblyg a chyfleus.” 

Bydd bysiau Fflecsi yn gweithredu mewn ardal o wasanaeth penodol ym Mwcle a'r cyffiniau, High Kinnerton, Penyffordd a'r Hob, a bydd yn galluogi i drigolion heb wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gysylltu â phrif wasanaethau bysiau ym Mrychdyn a Bwcle.  Byddent hefyd yn cynnig trafnidiaeth i gyfleusterau hamdden, siopau masnach, clybiau ar ôl ysgol ac apwyntiadau meddygol, gan leihau’r arwahanrwydd cymdeithasol y mae rhai trigolion gwledig yn ei deimlo.

Bydd y cyfleuster archebu ar gyfer y gwasanaeth hwn yn fyw ar 14 Awst, 2022.   I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, map o’r ardal a wasanaethir a sut i archebu, ewch i https://fflecsi.cymru