Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol
Published: 01/08/2022
Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd ar ôl ein hymgynghoriad ynghylch ein Strategaeth Ddigidol, ac rydym wedi gwrando arnoch.
Yn ôl yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr mae pedwar o brif bethau i ganolbwyntio arnynt. Byddwn yn mynd i’r afael â’r materion hynny fel rhan o brosiectau neu themâu sy’n rhan o’r Strategaeth Ddigidol a byddwn yn dal i roi blaenoriaeth iddynt wrth fynd yn ein blaenau.
Ceir crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriad yn ein blog digidol diweddaraf. I weld y canlyniadau’n llawn, ewch i’r tudalennau ymgynghori ar gyfer y Strategaeth Ddigidol.
Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys:
- Sicrhauna chaiff pobl na fedr ddefnyddio gwasanaethau ar-lein eu heithrio;
- Helpu pobl i gysylltu â’r byd digidol drwy ddarparu mynediad at gysylltiadau, dyfeisiau a hyfforddiant;
- Gweithio i wella cysylltedd yn y Sir.
Yn y blog ac ar wefan y Strategaeth Ddigidol rydym yn egluro sut rydym yn mynd i’r afael â’r rhain.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
“Rydym wedi gwrando arnoch chi ac wedi llunio Strategaeth gadarn i ddatblygu ein gwasanaethau digidol gan sicrhau nad ydym yn gadael neb ar ôl. Fe ofynnoch chi am wasanaethau ar-lein hawdd eu defnyddio a gwybodaeth berthnasol ar ein gwefan, ac rydym hefyd wedi cyflwyno elfennau cyfoes i’r wefan.
“Mae’r rheiny’n cynnwys “canolbwyntiau” lle mae’n haws dod o hyd i wybodaeth berthnasol. Yn eu plith mae’r Canolbwynt Digidol, Etholiadau a Phrentisiaethau a byddwn yn ychwanegu mwy drwy’r amser – cadwch lygad am y Canolbwynt Tai newydd cyn bo hir!”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â chynlluniau digidol y Cyngor, mae croeso ichi gysylltu â communication@flintshire.gov.uk.
Os nad ydych wedi gwneud yn barod, beth am gofrestru i gael newyddion rheolaidd am y Cyngor drwy e-bost? Gallwch gael cip yma.