Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Plant lleol yn cael eu herio!
Published: 06/07/2022
Mae myfyrwyr o Fryn Gwalia wedi wynebu’r fyddin – a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny!
Mae Forces Fitness, cwmni arobryn sy’n gweithio’n agos gyda nifer o ysgolion a sefydliadau eraill, wedi darparu rhaglen gyffrous yn Sir y Fflint, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.
Bu myfyrwyr o bob blwyddyn yn treulio’r diwrnod yn canolbwyntio ar heriau sy’n gwella eu hiechyd a’u lles wrth feithrin cadernid.
Dywedodd y Pennaeth, Lorraine Dalton: “Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych i’n myfyrwyr. Gwnaethant fwynhau’r diwrnod yn fawr a gobeithio y cawn ni gyfle i wneud hyn eto yn y dyfodol.”
Sylwadau gan rai myfyrwyr:
“Gwnes i fwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau a siarad â’r Cyn-filwyr am hanes a rôl fy Nhad yn y Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig.”
“Gwnes i fwynhau gymaint! Roedd yn hwyl, cyffrous a heriol iawn. Mae wedi gwneud i mi fod eisiau bod yn gadét.”
Dywedodd Sean Molino BCA (Rheolwr Gyfarwyddwr Forces Fitness Ltd): “Mae’r gymuned wedi croesawu’r Rhaglen hon yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am alluogi i hyn ddigwydd, ynghyd â’n partneriaid darparu, yn enwedig Cyngor Sir y Fflint am fod mor gefnogol o’r fenter hon. Diolch yn fawr i’r staff sydd wedi sicrhau bod y sesiynau hyn mor gofiadwy i gynifer o bobl, y rhieni, gwarcheidwaid, aelodau’r teulu ac wrth gwrs ein cyfranogwyr gwych! Gobeithio bod modd i ni ddarparu rhywbeth tebyg yn y dyfodol.”