Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ffaglau ar gyfer y Jiwbilî
Published: 01/06/2022
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi cynlluniau i oleuo ffaglau ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines nos Iau, 2 Mehefin 2022.
Mae’r ffagl yn un o filoedd i gael eu goleuo yn y DU a’r Gymanwlad ac mae’n ffurfio rhan o’r rhaglen swyddogol a gyhoeddwyd gan Balas Buckingham ar gyfer y Penwythnos Jiwbilî.
Bydd y ffaglau yn cael eu goleuo ar hyd arfordir Sir y Fflint yn Bagillt, Doc Maes Glas, Fflint Point, Y Fflint (RNLI) ac yn Saltney (Cyngor Tref Saltney), gan ymuno â dros 2,022 sy’n cael eu goleuo gan elusennau, cymunedau a grwpiau ffydd ar draws y DU.
Yn ogystal, bydd ffaglau yn cael eu goleuo ym mhob un o 54 prif ddinas y Gymanwlad a bydd goleuo’r prif ffagl yn cael ei gynnal mewn seremoni arbennig ym Mhalas Buckingham nos Iau. Bydd hyn yn cynnwys gosod golau gyda Chanopi Gwyrdd y Frenhines, cerflun ‘Coeden Coed’ a thafluniad ar ffrynt Palas Buckingham. Bydd y ffordd newydd yma o gymryd rhan yn goleuo’r ffagl yn adlewyrchu hanes y Teulu Brenhinol yn cefnogi achosion amgylcheddol.
Dywedodd Bruno Peek LVO OBE OPR, Platinwm Jiwbilî y Frenhines:
“Gan adeiladu ar draddodiad hir o oleuo ffaglau i nodi dathliadau brenhinol arwyddocaol, bydd miloedd o ffaglau yn cael eu goleuo ar draws y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad. Byddant yn galluogi cymunedau lleol i ddod at ei gilydd i dalu teyrnged i’w Mawrhydi fel rhan o’r rhaglen swyddogol o ddigwyddiadau.
“Mae’n wych gweld yr ystod o gefnogaeth ar gyfer goleuo ffaglau, fydd yn amlygu’r amrywiaeth ac undod y genedl a’r Gymanwlad. Mae’r Frenhines wedi goleuo ein bywydau am 70 mlynedd drwy ei gwasanaeth ymroddedig ac ymrwymiad. Hoffem oleuo’r genedl a’r Gymanwlad er anrhydedd iddi.”
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
“Rydym yn falch o oleuo ffaglau ar hyd arfordir Sir y Fflint fel rhan o ddigwyddiadau Dathlu Jiwbilî y Frenhines. Mae’r arfordir yn ased gwych i’r sir gyda Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn dathlu 10 mlynedd eleni, mae’n flwyddyn o ddathliadau. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod a mwynhau’r achlysur gyda ni.”
Mae Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a Gweithgareddau Cysylltiol wedi eu trefnu gan Bruno Peek a’i dîm ymroddedig.