Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Newydd
Published: 27/05/2022
Ddydd Mawrth 24 Mai, cafodd y Cynghorydd Mared Eastwood ei phenodi yn Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.
Mae hi’n cynrychioli ward New Brighton ac mae hi wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers mis Mai 2017.
Mae’r Cynghorydd Eastwood wedi helpu i drefnu, cyflwyno a chefnogi digwyddiadau a grwpiau cymunedol amrywiol ac mae hi hefyd yn glerc ar gyfer Cyngor Cymuned Argoed ar hyn o bryd.
Mae hi’n byw yn New Brighton ers dros 18 mlynedd gyda’i gwr a dau fab. Ei gwr, Mr Tim Eastwood fydd ei chydwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Eastwood:
“’Dw i wrth fy modd yn cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n anrhydedd mawr cynrychioli Sir mor anhygoel â’n un ni. Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu ac yn cynrychioli Sir y Fflint gyda balchder.”
Mae’r Cynghorydd Gladys Healey wedi cael ei phenodi yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.
Mae Cynghorydd Healey yn cynrychioli adran etholiadol Yr Hôb ac mae wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers mis Mai 2017. Ei gwr, y Cynghorydd David Healey sydd yn cynrychioli adran etholiadol Caergwrle fydd ei chydwedd.
Mae hi wedi byw yn Yr Hôb ers 36 o flynyddoedd ac mae hi’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Estyn.
Fe arferai Cynghorydd Healey weithio mewn nifer o leoliadau gofal yn cynnwys Adrannau Llawfeddygol ac Orthopaedeg yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae ganddi ddwy o ferched a thri o wyrion ac wyresau.