Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn enwi Cabinet newydd
Published: 24/05/2022
Ddydd Mawrth, 24 Mai, cafodd y Cynghorydd Ian Roberts ei ail-ethol yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Bydd yn parhau i fod yn Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden. Enwodd ei Gabinet fel a ganlyn:
Y Cynghorydd Christine Jones - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Y Cynghorydd Dave Hughes - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r strategaeth cludiant rhanbarthol
Y Cynghorydd Chris Bithell - Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd
Y Cynghorydd Billy Mullin - Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol
Y Cynghorydd Paul Johnson - Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael
Y Cynghorydd Sean Bibby - Aelod Cabinet Tai ac Adfywio
Y Cynghorydd David Healey - Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi