Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Ffair Swyddi
Published: 09/05/2022
Roedd bron i 600 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant cyntaf a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ers y pandemig.
Roedd y Ffair Swyddi wedi’i hanelu at oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith a bu’n gydweithrediad llwyddiannus arall rhwng Cymunedau am Waith, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru.
Roedd yna dros 60 o gyflogwyr yn y digwyddiad gyda 1000 o swyddi gwag.
Yn ogystal ag ymgeisio am y nifer o swyddi gwag a gynigiwyd, roedd ceiswyr gwaith yn gallu cyfarfod gyda a gofyn cwestiynau uniongyrchol i gyflogwyr.
Yn ystod y misoedd i ddod bydd yna ffeiriau swyddi dros dro ar draws y sir. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.
Os ydych yn gyflogwr ac yn dymuno cymryd rhan, gallwch anfon e-bost at Janiene.davies@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk.