Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Myfyrwyr Bryn Gwalia yn mwynhau gweithgareddau ar ôl ysgol
Published: 10/03/2022
Mae myfyrwyr Ysgol Bryn Gwalia yn yr Wyddgrug wedi bod yn mwynhau gweithgareddau ar ôl ysgol diolch i grant gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ysgol ar agor tair noson yr wythnos er mwyn i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau fel Ymarfer Bocsio, Dawnsio Stryd ac Aerobeg. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ac yn cynnwys byrbryd iach hefyd!
Mae’r fenter yn boblogaidd iawn gyda’r plant ac mae’r lleoedd yn cael eu llenwi’n gyflym.
Roedd y cyfle hwn yn bosibl diolch i gyllid grant gan Chwaraeon Cymru drwy eu cronfa Addysg y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth. Nod y cyllid yma ydi rhoi cyfle i bob plentyn fanteisio ar weithgareddau corfforol y tu allan i’r diwrnod ysgol.
Dywedodd y Pennaeth, Lorraine Dalton:
“Gobeithiwn y bydd cefnogi dysgwyr drwy ddarparu ystod o weithgareddau chwaraeon ac artistig ynghyd â rhoi cyfle iddynt gymysgu a chymdeithasu ar ôl ysgol, yn gwella dysgu a lles y disgyblion tra’n meithrin perthnasoedd yn y gymuned”.
Gyda sylwadau fel y rhai isod gan y cyfranogwyr, mae’n amlwg bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol:
“Rwy’n hoffi dodgeball oherwydd mae’n hwyl, rwy’n cael gweld fy ffrindiau ac mae’n cael ei redeg yn dda.”
“Mae’r clybiau’n syniad gwych gan eu bod yn fy nghadw yn ffit ac yn iach ac yn rhad ac am ddim hefyd.”
“Rwy’n dod i’r clwb gan nad ydw i eisiau diflasu gartref ac mae’n rhoi rhywbeth i mi ei wneud.”
“Rwy’n mwynhau dawnsio oherwydd ei fod yn hwyl ac am ddim. Mae’n fy nghadw yn ffit hefyd.”
“Mae cael Michelle o Aura yn syniad da oherwydd mae’n deall rheolau dodgeball”.