Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cofrestrwch ar gyfer y Fforwm Landlordiaid Lleol
Published: 04/03/2022
Mae Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol (NRLA) yn cynnal fforwm landlordiaid ddydd Iau 24 Mawrth 2022.
Bydd y fforwm yn digwydd dros Zoom rhwng 6pm a 7.15pm.
Gyda’r holl newidiadau fydd yn digwydd yn y Sector Rhentu Preifat yng Nghymru’r haf yma, mae’n hollbwysig bod POB landlord preifat yn ymwybodol o’r newidiadau arwyddocaol hyn a fydd yn effeithio ar landlordiaid, asiantau a thenantiaid.
Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda: https://www.nrla.org.uk/events/meetings/4920. Gall aelodau’r NRLA gadw lle yn uniongyrchol drwy eu cyfrif.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: Landlord.Support@flintshire.gov.uk.
Agenda
• DIWEDDARIAD pwysig ar newidiadau i Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 sy'n effeithio ar landlordiaid.
• Diweddariad Llywodraeth Cymru
• Diweddariad ar adfeddiannu
• Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni
• Diweddariad gan Dîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint
• Diweddariad gan Dîm Tai Sir y Fflint ar y gefnogaeth sydd ar gael i landlordiaid a thenantiaid.
Os hoffech wybod mwy am y fforwm landlordiaid hwn neu anfon cwestiwn i mewn ar unrhyw un o’r pynciau perthnasol, anfonwch e-bost at: Landlord.Support@flintshire.gov.uk.