Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobrau Cyfeillgar i Ddementia yr Wyddgrug
Published: 22/02/2017
Cynhaliodd Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia Fflint, ar y cyd â Chyngor Sir y
Fflint, eu Gwobrau Busnes yn ddiweddar yng Nghaffi Cof Llys Jasmine, yr
Wyddgrug.
Roedd y digwyddiad yn ddathliad ar gyfer y deg busnes neu sefydliad yn yr
Wyddgrug sydd wedi bod yn llwyddiannus o ran cyflawni statws Gweithio tuag at
fod yn Gyfeillgar i Ddementia.
Maer busnesau hyn wedi addo o leiaf 4 cam gweithredu o unrhyw un or adrannau
ymrwymiad a restrir isod:
Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau gweithredu yn
cynnwys: penodi hyrwyddwr dementia ar gyfer y sefydliad, gan roi dealltwriaeth
sylfaenol o ddementia i staff).
Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd ffisegol y siop / adeilad (camau gweithredu yn
cynnwys: arwyddion clir yn y siop, mynedfeydd wediu goleuon dda).
Ymrwymiad 3: Cefnogi staff syn datblygu dementia neu yn gofalu am rywun â
dementia (mae camau gweithredu yn cynnwys: newid rôl y person, gan ddarparu
cwnsela yn fewnol).
Ymrwymiad 4: Cefnogir gymuned leol (camau gweithredu yn cynnwys: codi arian,
gwirfoddoli, partneriaethau elusen).
Enillwyr y Gwobrau oedd:
· Byddin yr Iachawdwriaeth
· Cyngor Tref yr Wyddgrug
· Y Bwthyn
· Dwy siop Boots yn y dref
· Y Savoy
· Llys Jasmine
· Home Instead
· Spavens
· Canolfan Ofalwyr NEWCIS
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Dyma’r ail dro i ni gynnal y gwobrau hyn ac maent wedi bod yn llwyddiannus
iawn wrth wella proffil y cyflwr hwn a dangos beth y gall sefydliadau ei wneud
i geisio gwneud bywyd yn haws i bobl gyda dementia a’u teuluoedd. Maen
parhau’r gwaith gwych syn cael ei wneud ar draws y sir, er enghraifft agor
caffis cof.”
Dywedodd Cathy Peach, Cadeirydd grwp yr Wyddgrug:
“Mae ein grwp wedi gweithion galed i godi ymwybyddiaeth o ddementia gyda
chymorth Cymdeithas Alzheimer ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau
lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol i sicrhau bod yr Wyddgrug yn lle ble mae
pobl â dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn hyderus y gallant
gyfrannu at fywyd y dref.
“Mae ein grwp wedi cael cefnogaeth ardderchog gan y Tîm yn Adran Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.”
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu
luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.