Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Strategaeth Dwf Ranbarthol a Chynllun Glannau Dyfrdwy
Published: 10/02/2017
Bydd adroddiadau ar y Strategaeth Dwf Ranbarthol a Chynllun Glannau Dyfrdwy yn
cael eu hadolygu gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint yn eu cyfarfod nesaf ddydd
Mawrth, 14 Chwefror.
Mae’r adroddiadau hyn yn dangos sut y mae’r Cyngor ar y blaen o ran cynllunio
ar gyfer y strategaeth o dwf economaidd, fel partner rhanbarthol ac o ran trosi
hyn yn fuddiannau lleol. Mae’r Cyngor yn ymgyrchu dros fuddsoddiad sylweddol yn
yr isadeiledd er mwyn cefnogi’r twf hwn gan gynnwys gwelliannau i’r A494/A55
sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru; strategaeth ar gyfer
gwelliannau i’r rhwydwaith rheilffordd (Metro Gogledd Cymru) a phecyn
integredig o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth leol er mwyn mynd i’r afael â
thagfeydd.
Mae’r Strategaeth Dwf Ranbarthol yn gynllun uchelgeisiol sy’n anelu at dwf o
£7.2bn yn economi Gogledd Cymru erbyn 2035 a chreu hyd at 120,000 o swyddi
newydd a 37,500 o dai newydd.
Bydd y Strategaeth yn adeiladu ar gryfderau presennol y rhanbarth, yn enwedig
yn y sectorau gweithgynhyrchu uwch ac ynni, er mwyn cynyddu menter, gwella
lefelau sgiliau a gwella’r isadeiledd.
Cefnogir y Strategaeth Dwf Ranbarthol, sy’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer
cynllunio economaidd y dyfodol, gan arweinwyr a phrif weithredwyr pob un o chwe
awdurdod unedol y rhanbarth, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor,
Prifysgol Glyndwr, Coleg Cambria, Grwp Llandrillo-Menai (Coleg) a Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Gwnaed y Strategaeth yn bosibl drwy
gydweithio, gwaith partneriaeth ac ymgysylltiad sector preifat cryf.
Bydd gweithio ar draws ffiniau yn hollbwysig o ran tyfu economi Gogledd Cymru a
meithrin cysylltiadau gyda Gogledd Orllewin Lloegr a’r Pwerdy Gogledd Lloegr
ehangach. Mae hanes cryf o waith partneriaeth ar draws y ffin, gan gynnwys er
enghraifft Cynghrair Mersi Dyfrdwy a grëwyd er mwyn gwella isadeiledd y
rheilffordd yn lleol. Mae Gogledd Cymru’n gweithio’n agos â Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu uchelgeisiau’r Strategaeth.
Mae Glannau Dyfrdwy yn rhan flaenllaw o Strategaeth Dwf Gogledd Cymru ac mae
Cynllun Glannau Dyfrdwy yn nodi gweledigaeth 30 mlynedd uchelgeisiol ar gyfer
sut y gellir gwireddu hyn yn lleol. Mae’r Cynllun yn cyfuno trafnidiaeth,
cynllunio, datblygiad economaidd, tai a’r amgylchedd o fewn un weledigaeth.
Mae 10,000 o swyddi newydd a 1,500 o dai newydd eisoes wedi’u darogan ar gyfer
Glannau Dyfrdwy.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton:
Mae’r Strategaeth Dwf Ranbarthol yn cyflwyno uchelgais glir ar gyfer twf
economaidd ar draws Gogledd Cymru. Mae Parth Menter Glannau Dyfrdwy yn
hanfodol bwysig i lwyddiant economaidd y rhanbarth, fodd bynnag mae’n bwysig
hefyd i drigolion Glannau Dyfrdwy allu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth
presennol a rhai newydd. Am y rheswm hwn mae’r Cyngor hefyd yn lansio Cynllun
Glannau Dyfrdwy sy’n nodi anghenion buddsoddi’r ardal ar gyfer y dyfodol; wrth
wraidd hyn mae galwadau am wasanaethau rheilffordd newydd a gwell, gan gynnwys
gorsafoedd trên newydd yng Nglannau Dyfrdwy a Brychdyn.
Mae cludiant yn arbennig o bwysig i dwf economaidd yn ac o amgylch Glannau
Dyfrdwy. Bydd buddsoddiad wedi’i dargedu’n ofalus yn helpu i gysylltu’r
gwahanol fathau o gludiant â’i gilydd yn well, yn lleihau tagfeydd ac yn
cynyddu argaeledd mannau parcio. Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos â Llywodraeth
Cymru ar y gwelliannau hyn ac mae Cynllun Glannau Dyfrdwy yn fframwaith pwysig
o ran cyfiawnhau cyllid ar gyfer gwneud gwelliannau i gludiant; mae Llywodraeth
Cymru er enghraifft eisoes wedi cytuno i gefnogi gwaith paratoadol ar gyfer
gwella’r rhwydwaith beicio yng Nglannau Dyfrdwy.