Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol
Published: 12/01/2017
Ceisir cymeradwyaeth gan Gabinet y Cyngor yn eu cyfarfod ar 17 Ionawr ar gyfer
20 o Nodiadau Canllaw Cynllunio Lleol (NCCLl) er mwyn eu mabwysiadu yn ffurfiol
fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA).
Mae’r NCCLl wedi’u datblygu yn dilyn ymarfer ymgynghori helaeth yn cynnwys
datblygwyr, asiantau, adrannau mewnol y Cyngor, awdurdodau cyfagos, cynghorau
tref a chymuned, ymgynghoreion statudol a grwpiau diddordeb lleol rhwng 18
Rhagfyr 2015 a 12 Chwefror 2016.
Mae’r NCCLl, rhai yn newydd ac eraill wedi’u diwygio, yn ymdrin ag ystod o
ystyriaethau cynllunio, o’r gwagle o amgylch anheddau i Ardaloedd Cadwraeth,
cadwraeth natur i dai fforddiadwy a safonau parcio i gadwraeth ynni ac ynni
adnewyddadwy, a byddant yn cael eu defnyddio i gefnogi polisïau yng Nghynllun
Datblygu Unedol mabwysiedig Sir y Fflint, i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar
geisiadau cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd;
“Bydd y NCCLl newydd yn helpu i ddarparu arweiniad clir a gwybodus ar bob
ffactor sy’n dylanwadu ar benderfyniadau ar geisiadau cynllunio a strategaethau
defnydd tir tymor hir. Bydd ganddynt hefyd fwy o rym fel ystyriaethau cynllunio
pwysig ar benderfyniadau cynllunio defnydd tir ac yn helpu i esbonio polisïau
penodol yn y CDU, nes y gellir cymeradwyo’r CCA newydd fel rhan o’r Cynllun
Datblygu Lleol sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.”
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Cyngor:
www.siryfflint.gov.uk/cynllunio