Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llyfrgell Treffynnon a’r Canolbwynt Hamdden
Published: 11/01/2017
Mae Llyfrgell a Chanolbwynt Hamdden newydd Treffynnon bellach ar agor.
Y llynedd, derbyniodd Llyfrgell Treffynnon £120,000 o gyllid gan Lywodraeth
Cymru i helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau. Roedd hyn yn caniatáu i Gyngor
Sir y Fflint symud y Llyfrgell i mewn i’r Ganolfan Hamdden i greu pwynt canolog
sy’n cynnig ystod o wasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint,
a fu’n ymweld â’r cyfleuster newydd yn ddiweddar:
“Mae’r canolbwynt arloesol hwn yn groesawgar iawn a bydd yn annog ac yn denu
defnyddwyr newydd, yn enwedig plant ifanc, gyda mannau ar gyfer gweithgareddau,
Wi-Fi am ddim a mannau dysgu. Bydd modd i bobl eistedd a darllen neu fynd ar y
cyfrifiaduron wrth ddisgwyl am aelodau or teulu syn defnyddio cyfleusterau
eraill y ganolfan.
“Mae gosod y ganolfan hamdden a’r llyfrgell yn yr un lle wedi gweithio’n dda
iawn yng Nglannau Dyfrdwy ac mae’n golygu y gall y llyfrgell fod ar agor am fwy
o amser ac fe all y cwsmeriaid gael llawer o wasanaethau mewn un lle cyfleus.
Rhif ffôn newydd y llyfrgell yw 01352 703850.
Y Cyng. Chris Bithell gyda disgyblion o Ysgol Gwenffrwd