Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cae chwaraeon artiffisial newydd ar gyfer yr Wyddgrug

Published: 11/01/2017

Mae bwriad i osod cae chwaraeon artiffisial newydd yn Ysgol Uwchradd Alun yn yr Wyddgrug, yn ôl adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn hwyrach y mis hwn. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad sylweddol o £900,000 i ddarpariaeth chwarae yn y rhanbarth gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd yr arian yn cefnogi nodau ac amcanion ehangach y Cyngor ac yn sicrhau ei fod yn dal i gyflawni amcanion ei raglen iechyd, yn ei ysgolion ac ar gyfer y cyhoedd. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae’r Cyngor wedi gwneud ymrwymiad clir i gynnal darpariaeth chwarae o fewn y Sir ac maen buddsoddi mewn ardaloedd chwarae a chaeau chwaraeon synthetig fel hwn yn yr Wyddgrug. Rwy’n falch bod Sir y Fflint wedi cymryd y cam arloesol hwn a’i fod yn dal i ddiogelu cyfleusterau o’r fath i’n trigolion allu eu defnyddio a’u mwynhau.” Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir y Fflint: “Rydw i’n falch iawn o’r gwelliannau sydd ar y gweill i ardaloedd chwarae a chaeau chwaraeon sydd wediu nodi yn yr adroddiad hwn. Rwy’n siwr y byddant yn boblogaidd iawn ymysg y disgyblion a’r trigolion lleol. Dywedodd yr Aelod Ward lleol, y Cynghorydd Haydn Bateman: “Rwyn hapus iawn efo’r buddsoddiad hwn gan y bydd y cae yma’n cael llawer o ddefnydd gan Ysgol Alun ac Ysgol Maes Garmon, yn ogystal â’r Ganolfan Hamdden. Bydd yn sicrhau bod y cyfleuster cymunedol gwych yma’n cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.” LLUN: Y Cyng. Aaron Shotton, y Cyng. Haydn Bateman a’r Cyng. Kevin Jones gyda rheolwr y Ganolfan Hamdden, Gary Roberts, a disgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Alun.