Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd Sir y Fflint ar flaen y gad yng Nghymru
Published: 04/01/2017
Mae ffordd arloesol o ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgell wedi cael
cefnogaeth fawr gan y gweithlu, yn dilyn pleidlais.
Pleidleisiodd 92.5% o weithwyr y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd, a
rhoesant gefnogaeth ysgubol o 90% ir cynigion i sefydlu Cymdeithas Mantais
Gymunedol i ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd o 1 Gorffennaf 2017.
Daeth hyn yn dilyn penderfyniad y Cyngor i gytuno i sefydlur corff newydd i
reolir gwasanaethau o fis Gorffennaf 2017. Mae hyn yn torri tir newydd i Gymru
ac yn un o lond llaw o sefydliadau i gynnal gwasanaethau fel y rhain yn y DU
gyfan.
Maer cynllun busnes yn dangos y gellir gwneud dros £500,000 o arbedion yn y
flwyddyn gyntaf i weithrediad y gwasanaeth, tra mae Cyngor Sir y Fflint yn
gwneud buddsoddiad cyfalaf o bron i £1 miliwn i wella adeiladau hamdden a
llyfrgelloedd, mannau chwarae, caeau artiffisial yn y sir.
Nod cyffredinol y model yw darparu arbedion o 10% flwyddyn ar ôl blwyddyn tran
cynnal a gwella lefelau gwasanaeth presennol a diogelu swyddi. Bydd gweithwyr
yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd y sefydliad.
Bydd y sefydliad newydd ar Cyngor yn gweithion agored ac yn dryloyw, gyda
gwerthoedd cydweithredol, a bydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn drwy fwrdd
partneriaeth.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Bydd y sefydliad hwn yn un or ychydig sefydliadau dan arweiniad gweithwyr
sy’n cynnal gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn y Deyrnas Unedig, ac mae
lefel y gefnogaeth a ddangoswyd gan weithwyr yn dilyn y bleidlais ddiweddar yn
unigryw. Bydd Cymdeithas Mantais Gymunedol yn gallu dangos gwerth rhoi
gweithwyr wrth galon sefydliad a helpu i lunio modelau o gyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus ar gyfer y dyfodol syn dangos sut y gall gwasanaethau sydd mewn
perygl gael eu diogelu tran cyflawni gofynion ariannol a gwasanaeth a chadw
atebolrwydd i’r cyhoedd ar gweithlu.”
Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr newydd y sefydliad a arweinir gan
weithwyr:
“Mae pawb wedi gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf i gyflawnir
canlyniad hanesyddol hwn, ac rwyn hynod o falch i gael fy mhenodi i arwain y
sefydliad newydd. Rydym yn credu y bydd ein cydweithwyr yn ymateb ir her.
Does neb mewn sefyllfa well na nhw i allu adnabod gwelliannau ac arloesedd o
ran darparu gwasanaethau er budd ein cwsmeriaid. Byddwn yn gweithio gydan
gilydd ac yn canolbwyntio ar ein busnes craidd an gweledigaeth sef Mwy o
bobl, Mwy o Feddyliau a Chyrff Egnïol, yn Fwy Aml.” Mae’r dyfodol yn edrych yn
ddisglair a chyffrous ar gyfer hamdden a llyfrgelloedd yn Sir y Fflint.”