Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwneud defnydd da o hen goed Nadolig
Published: 21/12/2016
Ailgylchwch eich hen goeden Nadolig eto eleni gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y
Fflint, a chyfrannu at y gwaith parhaus o adfer cynefin twyni tywod pwysig.
Maer Ceidwaid yn gofyn am goed Nadolig go iawn dros bedair troedfedd o daldra,
yn un darn a heb addurniadau ar ôl cyfnod y Nadolig.
Gall trigolion fynd âu coed i Barc Gwepra yng Nghei Connah, lle bydd ardal yn
cael ei dynodi yn y prif faes parcio neur ardal maes parcio ger canolfan
weithgareddau Pentref Peryglon, Heol yr Orsaf, Talacre rhwng dydd Mercher 4 a
dydd Iau 12 Ionawr, 2016.
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Partneriaeth Talacre:
“Roedd ymdrechion y llynedd yn wych, buom yn gweithio gyda myfyrwyr lleol a
gwnaed llawer iawn o waith. Eleni, byddwn yn gwneud y cyfan eto gyda grwp
newydd o fyfyrwyr ac yn ychwanegu at y gwaith sydd eisoes yn bodoli.”
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd:
“Mae hon yn ffordd dda iawn o ailgylchu coed Nadolig dros ben. Bydd defnyddio
eich hen goed yn y modd hwn yn helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol ac yn
gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd. Rydw in annog pawb i gefnogir cynllun
eto fel y maent wedi gwneud mor dda yn y gorffennol.
“Dros y 18 mlynedd diwethaf mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint ai
bartneriaid wedi sefydlogi’r twyni trwy dywod dal gwynt a gosod ffensys i
leihau difrod i’r cyn dwyni sensitif. Daeth cynlluniau adfer traethau gan
beirianwyr Cyngor Sir y Fflint â thywod wedi’i garthu i’r traeth i adeiladu’r
cyn dwyni fel amddiffynfeydd môr.”
Bydd ceidwaid, gwirfoddolwyr a grwpiau o fyfyrwyr yn gosod yr holl goed a
gasglwyd y flwyddyn nesaf.