Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Help gyda materion Tai
Published: 14/12/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol er mwyn
codi ymwybyddiaeth trigolion ynghylch y cyngor a’r cymorth sydd ar gael iddynt
am faterion tai.
Mae’r ymgyrch wedi’i thargedu at bobl nad ydynt efallai yn sylweddoli eu bod yn
gymwys i gael cymorth, er enghraifft pobl ar incwm isel sy’n cael trafferth
ymdopi â’u rhent a’u biliau.
Bydd nifer o themâu’n cael sylw dros yr ychydig wythnosau nesaf, a’r cyntaf
ohonynt fydd Fforddiadwyedd. Os ydych yn ateb ‘ydw’ i unrhyw rai o’r
cwestiynau isod, cysylltwch ag Atebion Tai Sir y Fflint gan ei bod yn bosibl y
gallant eich helpu:
· ‘Da chi ar ei hôl hi gyda’ch rhent ac yn ofni y byddwch yn colli eich
cartref?
· ‘Da chi wedi eich effeithio gan y Dreth Llofftydd?
· ‘Da chi’n cael problemau talu eich rhent?
Meddai Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Dai, y Cynghorydd Helen Brown:
“Mae’n bosibl bod ‘na nifer fawr o bobl sydd ddim gwybod bod help ar gael iddyn
nhw os ydyn nhw’n mynd i anawsterau, am beth bynnag reswm, ac yn cael problemau
dod â dau ben llinyn ynghyd. Rydw i’n annog unrhyw un sydd yn y fath sefyllfa i
gysylltu â’r tîm atebion tai er mwyn cael cyngor am y cymorth ariannol a allai
fod ar gael iddyn nhw neu am opsiynau tai fforddiadwy eraill. Rydym eisiau
annog ein trigolion i wneud defnydd o’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw
drwy Gyngor Sir y Fflint.”
Gall Atebion Tai helpu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys symud ar
gyfer gwaith neu er mwyn gofalu am rywun, gadael y lluoedd arfog, neu os yw
eich cartref yn orlawn neu o safon wael. Gall Atebion Tai drefnu mynediad i
berchnogaeth tai fforddiadwy a chofrestrau tai cymdeithasol, help gyda blaendal
ar gyfer y sector rhentu preifat, mynediad i gyngor ariannol/budd-daliadau,
ac/neu opsiynau ar gyfer symud i eiddo ar gyfer pobl wedi ymddeol neu lety
gwarchod.
Mae’r holl wybodaeth ar gael ar ein gwefan yn
http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Housing/Housing-Solutions.aspx. Rydym
yn cydweithio gyda’n partneriaid, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai
Cymru a’r Gorllewin a Grwp Cynefin.
Gallwch ffonio’r Tîm ar 01352 703777 neu anfon e-bost at
housingsolutionstriage@flintshire.gov.uk nau alw yn un o’n Canolfannau Sir y
Fflint yn Cysylltu (wedi’u lleoli yn y Fflint, Treffynnon, Cei Connah, yr
Wyddgrug a Bwcle). Dilynwch ni ar twitter @CSyFflint #taicymorth.