Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Moderneiddio ysgol gam yn nes
Published: 16/12/2016
Mae contractwr wedii ddewis i ymgymryd â rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol
Uwchradd Cei Connah.
Bydd Kier Construction o Wrecsam yn gweithio i ddisodlir bloc Dylunio a
Thechnoleg ar bloc Technoleg Bwyd a Chelf presennol. Bydd y bloc tri llawr
presennol yn cael ei ddisodli gan adeilad deulawr newydd a fydd yn cynnwys
adran weinyddol, bloc Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd a Chelf a Dylunio,
ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu ychwanegol, swyddfa, toiledau, lifft,
grisiau ac ystafell beiriannau.
Mae’r gwaith yn ffurfio rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif gan Lywodraeth
Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar yng Nghampws Dysgu
Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy.
Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod yr haf 2017 a bydd y contractwr yn
sicrhau bod cyn lleied o aflonyddwch â phosibl ir dysgwyr a’r gymuned leol,
gyda dyddiad bwriedig ar gyfer cwblhau’r gwaith yn gynnar yn 2019.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Maer Cyngor wedi cytuno ar becyn ariannu gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer ei
raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £64.2 miliwn. Agorwyd dau ddatblygiad
campws modern a chyffrous yn ddiweddar, un yn Nhreffynnon a’r llall yng
Nglannau Dyfrdwy, fel rhan or rhaglen hon. Maer Cyngor yn parhau i ymrwymo i
fuddsoddi yn nyfodol ein plant an pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn parhau i
weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o ansawdd uchel in holl ddysgwyr.”
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’n garreg filltir arall yn ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cyfleusterau
modern ar gyfer plant, pobl ifanc ar gymuned ehangach. Mae’r contract wedi’i
ddyfarnu o dan Fframwaith Contractwr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd
Cymru.”
Mae’r broses gaffael hon yn golygu bod gan gynghorau grwp o gontractwyr sydd
wedi’u cyn-gymhwyso fel nad oes angen iddynt fynd drwy broses dendro hir a
drud, gan arbed amser a chostau. Nid yn unig maer contractwyr yn cael eu dewis
mewn ffordd deg, maent yn cynyddu’r buddion ir gymuned leol, cynnal datblygiad
economaidd a darparu adeiladau syn gadarn yn amgylcheddol wrth greu swyddi a
phrentisiaethau.
Dywedodd John OCallaghan, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Northern:
“Mae Kier yn falch o gael eu dewis fel y contractwr i foderneiddio Ysgol
Uwchradd Cei Connah ac rydym yn hyderus y byddwn yn darparur amgylchedd dysgu
âr gwerth gorau ac syn ysbrydoli, gan ddarparu buddion cymunedol gan gynnwys
cyflogaeth leol a hyfforddiant.”
Or chwith: Cyng Bernie Attridge, Damian Hughes - Cyngor Sir y Fflint, Cyng
Aaron Shotton, Dylan Wyn Jones - Kier, Bob Adams - Kier, Martin White, Cyng
Chris Bithell ac Ann Peers