Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
Published: 08/12/2016
Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir y Fflint.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth genedlaethol ddrafft i gael
miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gefnogol iawn
i’r strategaeth hon ac felly’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynllun diwygiedig
y Gymraeg Mewn Addysg ar gyfer 2017-2020 ac atgyfnerthu ei ymrwymiad cryf ir
Gymraeg.
Mae cynllun Sir y Fflint yn ganlyniad i bartneriaeth gynhyrchiol rhwng
swyddogion yr awdurdod lleol, cynrychiolwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg a
Saesneg y sir a sefydliadau allweddol eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddor
Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r unigolion hyn yn dod ynghyd mewn
fforwm o’r enw Fforwm Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf iawn ir Gymraeg an gweledigaeth ni yw
cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn ein sir. Byddwn yn cynorthwyo pobl o
bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi hyder iddyn nhw ddefnyddior iaith yn
eu bywydau pob dydd - yn y gwaith, yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned.
“Mae ein fforwm yn bartneriaeth gref gyda nodau clir a’r aelodau cywir, gan
gynnwys swyddogion Menter Iaith Sir y Fflint, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cambria
a chynrychiolaeth gan rieni a llywodraethwyr. Fel cadeirydd y pwyllgor, rydw
i’n hyderus y bydd ein cynllun yn llwyddo.”
Mae’n rhaid cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg Sir y Fflint
2017-2020 i Lywodraeth Cymru erbyn 20 Rhagfyr. Unwaith y derbynnir y
gymeradwyaeth derfynol, bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith ar 1 Ebrill
2017.