Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Rhaglen Gyfalaf
Published: 08/12/2016
Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried a
chymeradwyo adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2017/18 - 2019/20.
Yn bennaf, mae’r Rhaglen Gyfalaf yn cefnogi asedau seilwaith ac adeiladau (e.e.
priffyrdd ac ysgolion) ac yn buddsoddi mewn modelau gwasanaeth newydd neu rai
sy’n cael eu hail-fabwysiadu (e.e. hamdden a gofal cymdeithasol). Maer
buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig yn cyd-fynd â chynlluniau busnes y
gwasanaethau ar Cynllun Gwella.
Dyma rai or buddsoddiadau allweddol:
· Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Gynradd Glan Aber wedi eu nodi fel
yr ysgolion sydd âr anghenion mwyaf, ac angen estyn ac ailfodelu’r adeiladau
presennol. Mae cyfanswm o £4.6 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer y gwaith yng
Nghastell Alun a bron i filiwn o bunnau ar gyfer Glan Aber.
o Bydd Ysgol Uwchradd Castell Alun yn cael ei hestyn a bydd uned Celf a Dylunio
Technoleg newydd dri llawr yn cael ei chodi a bydd ardaloedd eraill yn cael eu
hailfodelu. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19.
o Bydd Ysgol Gynradd Glan Aber, Bagillt yn gweld y neuadd yn cael ei gweddnewid
i ddarparu dau ofod dysgu addas a bydd neuadd newydd yn cael ei chodi, sy’n
briodol ar gyfer nifer y disgyblion, ynghyd ag estyniadau llai i dair ystafell
ddosbarth. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18.
· Mae £4 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer codi cyfleuster gwasanaethau dydd
anableddau dysgu newydd sbon yn lle Canolfan Glanrafon yn Queensferry. Mae hyn
yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gofal dydd ar gyfer defnyddwyr
gwasanaeth.
· Grantiau Cyfleusterau ir Anabl – mae dyraniadau blynyddol o bron i £1.5
miliwn wedi eu nodi ar gyfer addasiadau, gan alluogi trigolion i barhau i fyw’n
annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
· Bydd cynnydd o £100,000 o 2017/18 ymlaen er mwyn cyflwyno rhaglen uwchraddio
toiledau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
· Llefydd chwarae a chaeau chwarae synthetig – mae dyraniad ychwanegol o bron i
£900,000 dros dair blynedd wedi ei nodi i dalu am offer chwarae newydd,
uwchraddio llefydd chwarae a gosod wynebau synthetig newydd ar gaeau chwarae
sydd mewn cyflwr gwael.
· Byddwn hefyd yn gwella canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a fydd hefyd yn
gwella’r gwasanaethau a ddarperir. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y
gwelliannau hyn yw £454,000.
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Aelod Cabinet Cyllid:
“Er gwaethaf yr her ariannol sylweddol rydym ni’n ei hwynebu, rydym ni wedi
llunio rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol ar gyfer y pedair blynedd nesaf ar
gyfer seilwaith ac ysgolion. Rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu gwneud y
gwelliannau hyn yn ein canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd, yn ogystal â
buddsoddi yn ein hysgolion. Mae hyn yn dangos bod Sir y Fflint yn gyngor
arloesol sy’n meddwl am y dyfodol ac yn buddsoddi yn lles y sir.”