Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant yr Academi Brentisiaid
Published: 01/12/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch bod pedwar prentis wedi cychwyn gyda Gwaith yn
yr Arfaeth Sir y Fflint.
Ym mis Hydref y llynedd, dechreuodd y Cyngor weithio gyda Gwaith yn yr Arfaeth
Sir y Fflint i sefydlu Academi Brentisiaid yn y Sir. Bydd yr academi’n helpu i
greu’r nifer fwyaf bosibl o bobl leol sydd â sgiliau trwy brentisiaethau, ac
mae gofyn amdanynt ar gyfer rhaglenni mawr y Cyngor i adeiladu ac adnewyddu tai
dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r prentisiaid yn gweithio gyda chontractwyr sydd wedi’u penodi gan y Cyngor
– tri gyda Wates Residential yn y Fflint – Nathan Bloor, Jamie Hayward a Beth
Mclellan ac mae Harvey Appleby gyda Keepmoat yn yr Wyddgrug.
Mae contractau adeiladu’r Cyngor bob tro’n mynnu bod y contractwr yn darparu
cyfleoedd prentisiaeth ac yn recriwtio gweithwyr lleol, ond yn aml, mae’n anodd
cwblhaur prentisiaethau oherwydd natur y contractau. Bydd creu’r academi hon
yn sicrhau bod modd cynnig a darparu prentisiaethau llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:
Maer Cyngor yn bwriadu gwario tua £150 miliwn ar adeiladu tai dros y 5
mlynedd nesaf ac mae hyn yn creu’r cyfle am oddeutu 50 o brentisiaethau i lefel
2, gyda rhai or rhain yn cyflawni lefel 3 a thu hwnt. Mae’r mathau o weithwyr
sydd eu hangen yn cynnwys crefftwyr traddodiadol fel plymwyr, seiri, plastrwyr,
arbenigwyr nwy a thrydan, bricwyr, ond maent hefyd yn cynnwys roliau technegol
ac ategol eraill fel swyddogion cyfathrebu â thenantiaid a syrfewyr meintiau
syn aml yn cael eu hanwybyddu, ond mae galw lleol a chenedlaethol mawr
amdanynt.
“Rydym hefyd eisiau gweld rhaglen dda ar waith i gynnig cyfleoedd lleoliad
gwaith newydd ac ychwanegol ar gyfer y rhai sydd bellaf oddi wrth y gweithle,
fel rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) a rhai sydd
ag anableddau dysgu neu heriau iechyd meddwl.
Dywedodd y Prentis Gweithredol Crefftau Amrywiol, Beth Mclellan:
“Fe wnes i gais am y brentisiaeth yma er mwyn gallu deall a phrofi gwahanol
grefftau a oedd ar gael yn y diwydiant. Roeddwn i mod falch bod fy nghais wedi
bod yn llwyddiannus. Rwy’n ei fwynhau gan fod pob diwrnod yn gwbl wahanol – mae
gwaith a thasgau newydd iw gwneud, ac rwy’n gallu ehangu fy sgiliau a phrofi
pethau newydd.
Dywedodd prentis arall mewn Gweinyddu Busnes, Harvey Appleby:
“Fe wnes i gais am brentisiaeth gan fy mod i am gael profiad mewn awyrgylch
swyddfa go iawn tra ron in astudio cwrs coleg. Rwyf wedi dysgu nifer o
sgiliau newydd yn barod, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwaith yn yr Arfaeth, Mark Scott:
“Rydyn nin frwd dros ddarparu dyfodol cynaliadwy i ystod amrywiol o bobl
ifanc ddawnus. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor
Sir y Fflint i greu cyfleoedd ychwanegol ar brosiectau lle maen anodd cael
rhai neu rai syn aml yn diflannu.
Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn gwmni buddiannau cymunedol sydd âr profiad
perthnasol, y diwylliant ar gwerthoedd cywir i fod yn bartner agos i’r Cyngor
ac mae gweithio gyda thrydydd parti yn lleihaur gost o weinyddur cynllun yn
sylweddol i’r Cyngor. Am ragor o wybodaeth ynglyn â chyfleoedd am
brentisiaethau, cysylltwch ag Amy Dutton ar 01352 703453 neu
amy@futureworks.wales.