Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Stori anhygoel caffi Dementia
Published: 01/12/2016
Rhoddodd caffi dementia yn Sealand sylw haeddiannol i brosiect gwerth chweil a
ariennir gan Cymunedau’n Gyntaf yn eu cyfarfod misol yn ddiweddar.
Mae’r prosiect rhyng-genhedlaeth sy’n cael ei redeg gan RMD Memory Matters yn
cyflwyno “Y Stori Fythol’ (“Never Ending Story”) seiliedig ar ddychymyg ac
atgofion gan weithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a phlant
ysgol.
Meddai Donna Redgrave o RMD- Memory Matters, sydd wedi bod yn gweithio gyda
disgyblion o ysgol Uwchradd y Fflint ac Ysgol Gynradd Sealand:
“Mae RMD – Memory Matters yn credu y gall y celfyddydau chwarae rhan
arwyddocaol o ran helpu pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia i fyw yn
dda. Gall y celfyddydau hefyd fod yn fodd o wella ymwybyddiaeth a
dealltwriaeth pobl o’r cyflwr a dod â chymunedau at ei gilydd. Rydym yn cynnig
amrywiaeth o wasanaethau creadigol, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pobl
sy’n byw efo dementia, eu gofalwyr a’r gymuned ehangach.
“Mae disgyblion, athrawon a staff cefnogi’r ysgolion yn cwblhau sesiwn
‘Cyfeillion Dementia’ sy’n eu cyflwyno nhw i heriau byw efo dementia. Yn
dilyn hynny bydd grwp o fyfyrwyr yn gweithio gyda mi ar sesiwn ‘Stori Fythol’.
Yn y cyfarfod diweddar yng Nghaffi Dementia Sealand daeth disgyblion Ysgol
Gynradd Sealand draw i rannu sesiwn Stori Fythol gyda phobl sy’n byw gyda
dementia a’u gofalwyr.
Bydd sesiwn debyg yn cael ei chynnal yng Nghaffi Cof y Fflint gyda disgyblion
Ysgol Uwchradd y Fflint ar 5 Rhagfyr.
Mae gan Caffi Dementia Sealand dîm o wirfoddolwyr ymroddedig ond caiff y caffi
ei redeg yn bennaf gan drigolion lleol a mamau ifanc. Meddai Hayley Wilson,
Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae’r caffi wedi bod ar agor ers tua phum mis ac mae ‘na ymdeimlad o gymuned
ac ysbryd tîm go iawn yno. Rydym wrth ein bodd fod ein gwaith caled yn talu ar
ei ganfed drwy lwyddiant cynyddol ein caffi. Hoffwn annog mwy o wirfoddolwyr a
phobl â dementia a’u gofalwyr i ddod draw i’n caffi a darganfod lle mor wych
ydi o, a hefyd pa gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r caffi ar agor unwaith y mis,
bob pedwerydd dydd Llun, rhwng 1-3pm yng Nghanolfan Gymunedol St Andrew yn
Garden City.”
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
Dw’ i wrth fy modd fod y caffi’n gymaint o lwyddiant ac mae’n wych cael
mewnbwn Donna sydd wedi bod yn allweddol o ran lledaenu’r gair i gynulleidfa
ehangach a chynnwys sawl cenhedlaeth yn y prosiect rhagorol hwn. Heb arian
Cymunedau’n Gyntaf efallai na fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”
Mae Caffis Dementia’n llefydd diogel, cyfforddus a chefnogol i bobl â dementia
a’u gofalwyr gymdeithasu. Nid yn unig hynny, yn ddiweddar, pan oedd yng
Nghaffi Dementia Sealand efo’i wraig Gill, fe wnaeth Richard Benyon gyfarfod
hen gyfaill nad oedd wedi ei weld ers 66 o flynyddoedd.
Meddai Gill: “Pryd bynnag yr oedd Richard yn siarad am yr hen ddyddiau, roedd o
bob amser yn sôn am ffrind o’i blentyndod, Peter Sumner, ac roedd o wirioneddol
isio ei gyfarfod o eto. Roedd Richard yn arfer mynd drosodd i Feithrinfa Bee
ar y fferi oedd yn cysylltu Cymru a Lloegr, cyn i’r bont gerdded gael ei
hadeiladu, ac roedd Peter yn byw yn Fferm Thornleigh ac roedd y ddau’n mynd i’r
ysgol efo’i gilydd tan oedden nhw’n 11 oed. Roeddwn i wedi fy syfrdanu
cyfarfod cwpl arall mewn sesiwn Caffi Dementia diweddar a ddywedodd eu bod
nhw’n nabod rhywun o’r enw Peter Sumner, felly mi nes i gysylltu ag o, fo oedd
y person cywir ac mi wnes i ei wahodd o i ddod yma heddiw, a dyma nhw. Dwi’n
teimlo’n emosiynol iawn fod Richard wedi gallu cyfarfod hen gyfaill a chymaint
o amser wedi mynd heibio ers iddyn nhw weld ei gilydd, ac mae’r diolch i gyd
i’r grwp yma – dwi’n ddiolchgar dros ben iddyn nhw i gyd.”
Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a difyr mae’r Caffi
Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl â dementia gael gwybodaeth a chyngor
ac i siarad efo pobl eraill sydd â phroblemau tebyg.
I gael rhagor o wybodaeth am y caffi, cysylltwch â Hayley Wilson:
hayleycj6@gmail.com neu ffoniwch Luke Pickering-Jones yng Nghyngor Sir y Fflint
ar 01352 702655.
Richard Benyon (ar y dde) a Peter Sumner - gyda’i gilydd unwaith eto ar ôl 66
o flynyddoedd!