Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tybaco anghyfreithlon wedi ei feddiannu mewn cyrch aml asiantaeth
Published: 24/11/2016
Mae ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint, Wardeiniaid Cymdogaeth
a Heddlur Gogledd wedi arwain at feddiannu tybaco anghyfreithlon.
Meddiannwyd tua 8,000 o sigaréts yn ogystal â thybaco sy’n cael ei rowlio gyda
llaw o siopau yn y Fflint a Threffynnon. Mae ymchwiliadau i ffynhonnell y
sigaréts yn parhau. Cefnogwyd yr ymgyrch gan gwn arogli tybaco arbenigol a
ddaeth o hyd ir tybaco oedd wedi ei guddio tu ôl i wal ffug ac mewn nenfwd
ffug uwchben toiled.
Mae masnach tybaco anghyfreithlon weithiau’n cael ei weld fel trosedd heb
ddioddefwr, ond mae hynny ymhell o fod yn wir. Yn aml mae’r rhai sy’n gwerthu
tybaco anghyfreithlon yn targedu plant a phobl ifanc er mwyn eu gwneud yn gaeth
i ysmygu, nid ydynt yn poeni i bwy maent yn gwerthu cyn belled âu bod yn
gwneud arian.
Mae gan y fasnach tybaco anghyfreithlon gysylltiadau cryf gyda gangiau trosedd
a throseddol gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â delio cyffuriau, masnachu pobl a
hyd yn oed yn helpu i ariannu terfysgaeth. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon
hefyd yn dwyn oddi wrth y trethdalwr. Mae hwn yn arian a allai gael ei wario
ar wasanaethau cyhoeddus pwysig fel ysgolion, ysbytai a gofal i’r henoed.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Gwarchod y Cyhoedd:
“Mae gwerthu tybaco rhad anghyfreithlon yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc
ddechrau ysmygu a dod yn gaeth ac yn eu gwneud yn fwy anodd i ysmygwyr sydd am
roi’r gorau iddi i dorri’r arferiad. Yn bell o fod yn drosedd heb ddioddefwr,
maer fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn arwain at ganlyniadau difrifol i
drosedd ac iechyd yn y gymuned ac yn achosi niwed economaidd i fusnesau lleol
cyfreithlon.”
Dywedodd y Rhingyll Mike Wilson o Dîm Cymdogaeth Ddiogel Gogledd Sir y Fflint:
“Mae hwn yn ganlyniad gwych ir asiantaethau hynny oedd yn rhan o hyn. Mae’n
dangos drwy gydweithio ein bod yn gallu cael effaith gwirioneddol mewn ymdrin â
materion o fewn y gymuned. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un a all gynnig
gwybodaeth am y math yma o drosedd i gysylltu â Heddlu’r Gogledd drwy sgwrs fyw
ar y we http://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support?lang=cy-gb,
drwy ffonio 101 neu drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.”
Dywedodd Richard Powell, Arweinydd Tîm Sir y Fflint ar gyfer Ymchwiliadau
Safonau Masnach a Diogelwch Cymunedol:
“Mae’r canlyniad gwych hwn yn dangos cydweithio partneriaeth rhagorol rhwng
asiantaethau gorfodi wrth i ni barhau â’n llwyddiant yn lleihau’r tybaco
anghyfreithlon sydd ar gael. Mae llai o bobl yn prynu tybaco anghyfreithlon a
llai o bobl bellach yn barod iw anwybyddu. Gall pobl wneud gwahaniaeth
gwirioneddol i helpu i gadw mwy o dybaco anghyfreithlon oddi ar y strydoedd
drwy roi gwybod i’r awdurdodau amdano. Mae angen i ni barhau i roi pwysau ar y
rhai sy’n parhau i’w werthu.”
Gall unrhyw un sydd am roi gwybod i Safonau Masnach am dybaco anghyfreithlon
sy’n cael ei werthu wneud hynny drwy ffonio 03454 040506. Sigaréts neu dybaco
syn cael ei rowlio â llaw sydd wedi eu smyglo neu’n ffug yw cynnyrch tybaco
anghyfreithlon ac nid ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau ynglyn â’u
cyfansoddiad.
Or chwith ir dde: PCSO Andy Knowles, PCSO Helen Whittingham a Claire Edge
Safonau Masnach Sir y Fflint