Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr Ysgolion Iach
Published: 25/11/2016
Un o’n ysgolion uwchradd lleol yw’r gyntaf yn yr ardal i dderbyn y Wobr Ansawdd
Genedlaethol gan Ysgolion Iach.
Ysgol Uwchradd Alun yw’r ysgol uwchradd gyntaf o bob rhan o Sir y Fflint a
Wrecsam i gyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol ar bymthegfed ysgol yng Nghymru.
Maer Cynllun Ysgolion Iach yn fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd
Cyhoeddus Cymru ac mae’n cydnabod ymrwymiad ysgol i iechyd a lles.
Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor
Sir y Fflint:
“Y Wobr Ansawdd Genedlaethol ywr anrhydedd uchaf o dan y cynllun ac mae Ysgol
Alun wedi treulio mwy na 14 mlynedd yn gosod iechyd a lles yng nghalon yr hyn y
maent yn ei wneud. Mae hon yn gamp enfawr ir ysgol ac yn rhywbeth yr ydym yn
falch iawn ohono fel sir.”
Daeth dros 100 o gynrychiolwyr disgyblion o wahanol grwpiau disgyblion ar draws
yr ysgol (gan gynnwys y rhai or pedwar Cyngor Ty, Cyngor yr Ysgol, Ecosgolion
a’r Grwp Gweithredu ar Faeth yn yr Ysgol) ynghyd i ddathlur cyflwyniad
arbennig. Cyflwynwyd y Wobr i’r ysgol gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Peter Curtis.
Dywedodd Jane Cooper, Pennaeth yn yr ysgol:
“Trefnir y digwyddiad dyrchafol ac ysbrydoledig hwn gan gynllun Ysgolion Iach
Cyngor Sir y Fflint. Nod heddiw yw amlygu gwaith tîm ardderchog ein holl
ddisgyblion ac athrawon, ac rwyn hynod o falch o fod yr ysgol gyntaf yn yr
ardal i dderbyn y wobr hon - da iawn i bawb syn gysylltiedig. “
Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Ian Budd, Y Cynghorydd Peter Curtis -
Cadeirydd y Cyngor ar Cynghorydd Chris Bithell - Aelod Cabinet dros Ieuenctid
ac Addysg, yn dathlu llwyddiant yr Wyddgrug Ysgol Alun gyda disgyblion,
athrawon, staff a llywodraethwyr ynghyd â Claire Sinnott, Uwch Ymarferydd
Ysgolion Iach