Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedau yn Gyntaf yn parhau i ganfod gwaith i bobl leol
Published: 22/11/2016
Yn dilyn rhaglen hyfforddi arloesol ar y cyd â chwmni adeiladu, mae Cymunedau
yn Gyntaf Sir y Fflint yn parhau i lwyddo i ddod o hyd i waith i bobl leol.
Roedd “Adeiladu Dyfodol, menter cwmni adeiladu Wates Residential yn gweld
ymgeiswyr yn cael eu recriwtio drwy raglen Cymunedau yn Gyntaf ac Esgyn gan
Lywodraeth syn gweithio gyda phobl syn wynebu rhwystrau i gyflogaeth.
Mynychodd un ar ddeg o bobl leol y cwrs pythefnos - wyth ohonynt bellach wedi
sicrhau swyddi gyda chwmnïau lleol. Maer tri unigolyn syn weddill yn parhau i
dderbyn cefnogaeth drwy Raglen Esgyn a Chymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint i
sicrhau cyflogaeth.
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn ymwneud yn helaeth â’r rhaglen buddiannau cymunedol
yn Sir y Fflint ac mae ganddo gysylltiadau ardderchog gyda gysylltiadau gyda
Wates yn ogystal â busnesau eraill yn yr ardal.
Dywedodd Richard Morgan, a ddechreuodd weithio gyda Wates Residential yn
ddiweddar:
“Roedd y cwrs Adeiladu Dyfodol yn dda iawn i mi ac rwyf wedi llwyddo i gael
cymwysterau wnes i erioed ddychmygu y byddwn yn eu cael. Mae hyn wedi golygu y
gallaf nawr ddechrau ar y swydd hon gyda Wates a chael rhywfaint o brofiad
fydd, gobeithio, yn arwain at fwy o gyfleoedd i mi yn y dyfodol. Heb y cyfle
hwn drwy Raglen Esgyn a Chymunedau yn Gyntaf, ni fyddai hyn byth wedi digwydd.
Ac maent yn dal i fod yno i gefnogi, syn wych.
Roedd y rhaglen hyfforddi yn cynnwys sesiynau crefft sgiliau adeiladu, gan
gynnwys gwaith saer a gwaith brics, yn ogystal â gweithdai CV a chyfweliad.
Derbyniodd pob ymgeisydd dystysgrif a dyfarnwyd QCF Lefel 1 mewn Crefftau
Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i’w helpu i sicrhau hyfforddiant a
phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol.
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu
Economaidd:
“Mae gallu rhedeg y mathau hyn o gyrsiau gyda chefnogaeth ein partneriaid a
chontractwyr yn hanfodol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint os ydym am barhau i
adeiladu mwy o dai. Mae angen i ni hyfforddi ein pobl leol fel eu bod yn gallu
manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lleol. Rwyf wrth fy modd bod y cwrs Adeiladu
Dyfodol cyntaf hwn yn Sir y Fflint wedi bod mor llwyddiannus ac rwyn edrych
ymlaen at allu darparu mwy o gyrsiau fel hyn yn y dyfodol.”
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential:
“Drwy ei fuddsoddiad mewn cartrefi newydd, mae Cyngor Sir y Fflint yn gosod y
safon ar gyfer buddsoddi mewn tai mawr a rhan fawr o hyn yw ehangder y
cyfleoedd maen eu creu ar gyfer pobl leol. Fel partner datblygu’r Cyngor,
rydym wedi bod yn gweithion agos dros y flwyddyn ddiwethaf i adnabod y ffyrdd
y gallwn gael effaith gadarnhaol yn y sir ac mae ein darpariaeth ar y cyd o
Adeiladu Dyfodol yn un enghraifft on hymdrechion i gyflawnir ymrwymiad hwn.
Or chwith ir dde: Rheolwr Safle Wates Residential, Richard Morgan, Jorden
Whittaker a Steven Wilkinson