Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon a Model Cyflawni Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd
Published: 21/11/2016
Yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd, ystyriodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint adroddiad
ar gynnydd y Model Cyflawni Amgen ar gyfer Hamdden a Llyfrgelloedd.
Un o ystyriaethau allweddol cyfarfodydd blaenorol y Cabinet oedd ymgysylltiad
ac ymrwymiad y staff rheng flaen ir Model Cyflawni Amgen arfaethedig.
Siaradodd y staff a fynychodd cyfarfod mis Mai’r Cabinet am eu hymrwymiad i’r
cwmni cydfuddiannol arfaethedig a arweinir gan weithwyr.
Cytunodd y Cabinet ar gynnig i gynnwys y Gwasanaeth Amgueddfeydd o fewn y
sefydliad newydd gan nad oedd unrhyw ddewis arall ar gael ir gwasanaeth fod yn
rhan o Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd leol.
Cytunwyd hefyd i gyflwyno cynllun gweithredu terfynol y sefydliad newydd i’r
Cabinet ym mis Rhagfyr a bod pleidlais y staff yn cael ei chynnal ar ôl y
cyfarfod hwn. Hefyd, penderfynwyd newid y dyddiad sefydlu i fis Gorffennaf 2017.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Gwasanaethau Hamdden:
“Bydd sefydlur sefydliad newydd ym mis Gorffennaf 2017 yn caniatáu cyfnod
cysgodol o chwe mis, gyda bwrdd a thîm rheoli cysgodol yn dechrau gweithio
ddiwedd mis Ionawr 2017. Mae hon yn amserlen realistig ac yn sicrhau y gellir
gwneud yr arbedion a gyllidebwyd ar eu cyfer yn 2017/18 heb orfod cau
cyfleusterau, sy’n gryn dipyn o gamp o ystyried y sefyllfa economaidd
bresennol.”
Yn yr un cyfarfod, bu i’r Cabinet hefyd edrych ar y cynnydd mewn perthynas â
Chynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon, a gytunwyd
arno ym mis Gorffennaf.
Maer adroddiad yn nodi cynnydd y grwp cymunedol, sy’n cynnwys ymgysylltu ac
ymgynghori â staff, corffori’r ganolfan fel Sefydliad Elusennol Corfforedig a
thrafod gyda chynghorau tref a chymuned.
Meddai’r Cynghorydd Jones:
“Yn seiliedig ar y gwaith y maer grwp cymunedol wedi ei wneud hyd yma a
chymhlethdod y gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau bod y trosglwyddiad hwn yn
llwyddiannus, maer Cyngor wedi cytuno i drosglwyddo’r ased fesul cam rhwng 31
Rhagfyr 2016 ac 1 Mawrth, 2017.”