Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adeiladu cartrefi newydd, a buddsoddi yn ein cymuned
Published: 17/11/2016
Mae ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tai cyngor newydd a thai
fforddiadwy o dan ei Raglen Tai Strategol ac Adfywio uchelgeisiol (SHARP) yn
parhau i fod o fudd ir gymuned leol. Yn ogystal â diwallu anghenion tai lleol,
maer datblygiadau yn hen Ysgol Custom House Lane, Cei Connah a The Walks, y
Fflint hyd yma wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y gymuned leol.
Mae Wates Residential, partner datblygu Cyngor Sir y Fflint, wedi cofnodi’r
buddsoddiad hwn ers i’r datblygiad cyntaf ddechrau ar safle Custom House Lane,
Cei Connah ym mis Mai 2016. Mae dros 194 o bobl leol wedi elwa o fentrau
cyflogaeth a hyfforddiant o’r ddau ddatblygiad yng Nghei Connah a’r Fflint ac
mae busnesau lleol wedi elwan fawr oherwydd ymrwymiad SHARP i gaffael nwyddau,
gwasanaethau a masnach lleol lle bynnag y bon bosibl. Mae Wates Residential
hefyd wedi bod ynghlwm â nifer o ddigwyddiadau er budd elusennau lleol ac
achosion cymunedol ac yn aml mae hyn wedi bod ar sail wirfoddol gan staff Wates
Residential.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Maen wirioneddol braf gweld yr effaith gadarnhaol y mae adeiladu tai cyngor
newydd a thai fforddiadwy newydd yn Sir y Fflint yn ei chael ar y gymuned
leol. Rwyf wrth fy modd, mewn cyfnod mor fyr yn y rhaglen pum mlynedd bod
Wates Residential wedi profi eu hymrwymiad tuag at fuddsoddi yn y gymuned leol
yn Sir y Fflint.”
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential:
Gydan gwaith datblygu ar y safle yn symud ymlaen ar gyflymder, maen amser
gwych i ganolbwyntio ar yr effaith gadarnhaol y mae buddsoddiad tai sylweddol
Cyngor Sir y Fflint yn ei chael ar y gymuned leol. Mae creu cyfleoedd
hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer ein cymdogion ar draws Sir y Fflint bob
amser wedi bod yn flaenoriaeth sylweddol i Wates Residential ac maen rhoi
balchder i mi fod eisoes wedi gweld cymaint o bobl leol yn elwa ar ein gwaith.”