Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ffair Nadolig y Cadeirydd
Published: 21/11/2016
Bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Ffair Nadolig ar ddydd Sadwrn, 26
Tachwedd.
Bydd elw o’r Ffair i’w chynnal yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn cael ei roi
i’r ddwy elusen a enwebwyd gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis yn
ystod ei flwyddyn yn y swydd.
Bydd nifer o stondinau, gan gynnwys crefftau ac addurniadau ar gyfer y Nadolig,
cacennau a jamiau, fframiau personol, cardiau cyfarch, planhigion a theganau.
Ar gyfer y plant fe fydd yna beintio wynebau a thatws ac ymweliad gan Siôn
Corn. Bydd yna raffl hefyd gyda gwobrau gwych.
Fe’ch gwahoddir chi i ddod draw i ddiwrnod o hwyl i’r teulu a gwneud rhywfaint
o siopa Nadolig tra’n cefnogi Hosbis Sant Cyndeyrn a Gwasanaeth Gwybodaeth i
Ofalwyr Gogledd Cymru.