Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dim gwaith ffordd ar briffyrdd y Cyngor dros dymor y gwyliau
Published: 16/11/2016
Bydd Cyngor Sir y Fflint unwaith eto yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod
rhwydwaith ffyrdd Sir y Fflint yn cael ei gynnal yn effeithiol a heb oedi mawr
yn ystod tymor y gwyliau.
Er mwyn cyflawni hyn, rhoddir embargo ar yr holl waith di-argyfwng o Ddydd
Gwener 2 Rhagfyr tan ddydd Mawrth 3 Ionawr 2017, a bydd yn effeithio ar yr holl
brif lwybrau yn y sir yn ogystal â chanol trefi.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
“Gan fod yna gynnydd sylweddol mewn traffig yn ystod pob gwyliau, rydym wedi
penderfynu unwaith eto i atal yr holl waith ffordd ar y prif lwybrau i osgoi
tagfeydd cynyddol yn ein trefi a’r ardaloedd cyfagos. Rydym yn gweithion agos
gyda chwmnïau cyfleustodau er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau cyn yr
embargo, fodd bynnag, caiff unrhyw gynlluniau mawr heb eu cwblhau erbyn 2
Rhagfyr eu gohirio tan 3 Ionawr 2017.”