Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Buddsoddiad cyfalaf mewn goleuadau stryd
Published: 11/11/2016
Ar 15 Tachwedd bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad syn nodi
ffyrdd o arbed arian a gwella goleuadau stryd y sir.
Fel rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i uwchraddio ei stoc o dros 20,000 o
oleuadau stryd a chael golau stryd gwyrddach a mwy ynni effeithlon, bydd cais
yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gyllid i uwchraddio dros 12,000 o
unedau golau stryd a gosod goleuadau LED mwy modern dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae goleuadau LED yn lleihau costau cynnal a chadw oherwydd eu bod yn para’n
hirach ac yn defnyddio llai o ynni o lawer na goleuadau confensiynol. Bydd
gosod goleuadau newydd hefyd yn gwella ôl-troed carbon Sir y Fflint yn
sylweddol ac yn lleihau biliau ynni a threth carbon y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr
Amgylchedd:
“Rydw i’n cefnogir cais i Lywodraeth Cymru yn llwyr ac yn edrych ymlaen at
ymateb buan er mwyn dechrau ar y gwaith o uwchraddio ein goleuadau. Bydd y
goleuadau newydd yn fwy ynni effeithlon ac oherwydd y byddan nhwn para’n
hirach bydd nifer y diffygion ar y rhwydwaith goleuadau yn llai, gan wella
diogelwch ar y ffyrdd ac arbed mwy o arian yn y tymor hir. Oherwydd y bydd y
goleuadau newydd yn defnyddio llai o ynni o lawer na’r unedau presennol, ni
fydd yn rhaid i’r Cyngor wneud dewisiadau anodd ar ddyfodol y gwasanaethau
goleuadau stryd a bydd hefyd yn caniatáu ir Cyngor ail-edrych ar yr ardaloedd
preswyl lle penderfynwyd rhai blynyddoedd yn ôl i ddiffodd rhai goleuadau yn y
nos.
“Mae’r cais yn dod i gyfanswm o £3.2 miliwn ac os bydd Llywodraeth Cymru yn ei
gymeradwyo bydd y gwaith yn dechrau fis Ebrill 2017 ac yn cael ei wneud fesul
cam dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y goleuadau yn cael eu gosod i sicrhau
lefel benodol o ddisgleirdeb a goleuo a fydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn
arwain at welliant gweledol.”